Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r datganiad ystadegol chwarterol hwn yn rhoi crynodeb o ddata perfformiad y GIG ar gyfer y byrddau iechyd lleol unigol yng Nghymru. Caiff dadansoddiad misol ar gyfer Cymru gyfan ei gyhoeddi yn y crynodeb o Weithgarwch a Pherfformiad y GIG sy’n gysylltiedig. Mae data misol manwl ar gyfer byrddau iechyd lleol hefyd ar gael ar StatsCymru.

Cyflwynir y dadansoddiadau yma ar gyfer pob bwrdd iechyd yn seiliedig ar dargedau perfformiad sefydledig Llywodraeth Cymru ar gyfer ymateb ambiwlansys, adrannau achosion brys, apwyntiadau cleifion allanol, diagnosteg a therapïau, amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) a gwasanaethau canser. Gallwch lywio i fyrddau iechyd penodol gan ddefnyddio'r hyperddolenni adran yng nghornel chwith uchaf yr adroddiad hwn.

Mae data yn yr adroddiad ystadegol hwn wedi cael ei ddarparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Ar gyfer rhai mesurau, nid oedd modd cymharu Powys â’r byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â byrddau iechyd eraill.

Y prif bwyntiau

O’r mesurau sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn, yr unig fwrdd iechyd sy’n cyrraedd unrhyw un o’r targedau perfformiad ar hyn o bryd yw Bae Abertawe, lle nad oes yr un apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi cymryd dros flwyddyn. Dim ond un llwybr therapïau ym Mhowys sy’n aros dros yr amser targed, ac mae’r nifer hwn mewn ffigurau sengl ym Mae Abertawe hefyd. 

O ran galwadau brys am ambiwlans neu alwadau ‘coch’, Aneurin Bevan oedd â'r gyfran uchaf o ymatebion o fewn 8 munud ym mis Tachwedd (52.0%). Caerdydd a'r Fro oedd â’r gyfran isaf (43.2%).

O ran adrannau achosion brys, Aneurin Bevan oedd â’r gyfran uchaf o gleifion a dderbyniwyd, a drosglwyddwyd neu a ryddhawyd o fewn y targed amser o 4 awr (76.1%), a Chaerdydd a’r Fro oedd â’r gyfran isaf (58.8%).

Aneurin Bevan oedd â’r ganran isaf yn aros mwy na 12 awr mewn adrannau brys (8.0%), a Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran uchaf (16.2%).

Bae Abertawe oedd â’r gyfran isaf o lwybrau RTT a oedd yn aros mwy na blwyddyn ym mis Hydref (14.8% o lwybrau), a Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran uchaf (26.9% o lwybrau). Bae Abertawe hefyd oedd â’r gyfran isaf yn aros mwy na dwy flynedd (1.3%), a Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran uchaf (5.2%).

Ar gyfer apwyntiadau cyntaf fel claf allanol, ym Mae Abertawe oedd y gyfran isaf a oedd yn aros mwy na blwyddyn (dim un llwybr). Betsi Cadwaladr oedd â’r nifer uchaf o gleifion yn aros mwy na blwyddyn (27.0% o lwybrau). 

Ar hyn o bryd Powys sydd â’r gyfran isaf o arosiadau diagnostig sy’n fwy na’r amser targed o 8 wythnos (16.9%). Caerdydd a’r Fro sydd â’r gyfradd uchaf (61.3% o lwybrau). 

O ran therapïau, Powys sydd â’r gyfran isaf sy’n aros yn hirach na’r amser targed o 14 wythnos (llai nag 1%), a Hywel Dda sydd â’r gyfradd uchaf (23.1% o lwybrau).

O ran gwasanaethau canser, Caerdydd a’r Fro sydd â’r gyfran uchaf o gleifion yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r pwynt amheuaeth (72.5%), a Hywel Dda sydd â’r gyfran isaf (44.7%).

Aneurin Bevan

Ffigur 1: Crynodeb o berfformiad Aneurin Bevan hyd at fis Hydref 2024 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Tachwedd 2024 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3] [Nodyn 4]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Aneurin Bevan o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Set ddata adrannau brys (DHCW), Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi (DHCW), Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth (DHCW), Llwybr Lle’r Amheuir Canser (DHCW)

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.

[Nodyn 2]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd.

[Nodyn 3]: Daeth data niwroffisioleg ar gyfer Aneurin Bevan ar gael ym mis Mehefin 2023, gan ychwanegu tua 1,000 o lwybrau nad oeddent wedi cael eu hadrodd o’r blaen. Darparwyd gwasanaethau diagnosteg niwroffisioleg gan Aneurin Bevan cyn mis Mehefin 2023, ond nid yw’r data hynny ar gael. Mae hyn yn effeithio ar gymharedd data diagnostig ar gyfer Aneurin Bevan a Chymru dros amser.

[Nodyn 4]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Gofal heb ei drefnu ym mis Tachwedd 2024

Ymatebwyd i 5.0% o alwadau ambiwlans ‘coch’ o fewn 8 munud. Yn gyffredinol, mae’r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf. 

Cafodd 76.1% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Nid oes tuedd hirdymor amlwg o ran perfformiad. 

Arhosodd 8.0% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae hyn wedi bod yn gyfnewidiol dros y blynyddoedd diwethaf.

Gofal wedi’i drefnu ym mis Hydref 2024

Roedd 17.9% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae hyn wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19, ond mae’n dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Roedd 4.9% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae’r ganran wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19 ac mae wedi setlo rhwng 0 a 10%.

Roedd 19.8% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae’r niferoedd wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd 2.6% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd. Dechreuodd y niferoedd ostwng ddechrau 2022 ac maent wedi sefydlogi ers dechrau 2023.

Roedd 17.3% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, dechreuodd y niferoedd gynyddu eto yng nghanol 2023. 

Roedd 62.4% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. Mae’r perfformiad wedi amrywio dros amser. 

Crynodeb 

Ym mis Hydref, perfformiodd Aneurin Bevan yn well na chyfartaledd Cymru gyfan ar gyfer galwadau ambiwlans ‘coch’, a chanran y cleifion mewn adrannau achosion brys a dderbyniwyd, a drosglwyddwyd neu a ryddhawyd o fewn 4 awr a 12 awr.
Ar hyn o bryd, mae'r perfformiad yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, therapïau ac amseroedd aros am driniaeth canser. Ar gyfer rhestrau aros RTT ac amseroedd aros am apwyntiadau cyntaf fel claf allanol, mae’r perfformiad yn debyg i gyfartaledd Cymru.

Betsi Cadwaladr

Ffigur 2: Crynodeb o berfformiad Betsi Cadwaladr hyd at fis Hydref 2024 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Tachwedd 2024 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3] [Nodyn 4]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Betsi Cadwaladr o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Set ddata adrannau achosion brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.

[Nodyn 2]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd.

[Nodyn 3]: Ym mis Ebrill 2020, ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno unrhyw ddata ar gyfer therapïau. Darllenwch yr wybodaeth am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

[Nodyn 4]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Gofal heb ei drefnu ym mis Tachwedd 2024

Ymatebwyd i 47.0% o alwadau ambiwlans ‘coch’ o fewn 8 munud. Yn gyffredinol, mae’r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd 62.9% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Nid oes tuedd hirdymor amlwg o ran perfformiad.

Arhosodd 16.2% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Yn gyffredinol, mae hyn wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Gofal wedi'i drefnu ym mis Hydref 2024

Roedd 34.1% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae hyn wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19, ond mae’n dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Roedd 14.6% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae hyn wedi bod yn gyfnewidiol ers dechrau’r pandemig.

Roedd 26.9% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae’r niferoedd wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd 5.2% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd. Er gwaethaf gostyngiad yn gynnar yn 2022, mae’r niferoedd wedi sefydlogi ers canol 2023.

Roedd 27.0% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Er bod y niferoedd wedi bod yn gostwng o ddechrau 2021 ymlaen, maent wedi bod yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd 51.8% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. Mae’r duedd hirdymor ar i lawr yn gyffredinol.

Crynodeb

O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Betsi Cadwaladr yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 a 12 awr yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd, mae’r perfformiad yn debyg i ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, ac yn waeth ar gyfer therapïau a rhestrau aros RTT. Mae’r perfformiad hefyd yn waeth na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser, a’r amseroedd aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol.

Caerdydd a'r Fro

Ffigur 3: Crynodeb o berfformiad Caerdydd a’r Fro hyd at fis Hydref 2024 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Tachwedd 2024 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3] 

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Caerdydd a’r Fro o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Set ddata adrannau achosion brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.

[Nodyn 2]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd.

[Nodyn 3]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Gofal heb ei drefnu ym mis Tachwedd 2024

Ymatebwyd i 43.2% o alwadau ‘coch’ o fewn 8 munud. Yn gyffredinol, mae’r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf. 

Cafodd 58.8% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Yn gyffredinol, mae’r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.

Arhosodd 8.7% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae tuedd ar i lawr wedi bod mewn perfformiad ers canol 2023.

Gofal wedi'i drefnu ym mis Hydref 2024

Roedd 61.3% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae’r niferoedd wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Roedd 4.1% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae’r niferoedd wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19 ond maent yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Roedd 22.9% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae’r niferoedd wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd 2.3% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd ac mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.

Roedd 20.1% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae'r niferoedd wedi bod yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd 72.5% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. 

Crynodeb

O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Caerdydd a’r Fro yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion mewn adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd, ac mae’r ganran sy’n aros mwy na 12 awr yn well na chyfartaledd Cymru.

Ar hyn o bryd, mae perfformiad Caerdydd a’r Fro yn waeth na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, yn well ar gyfer therapïau, ac yn debyg i ffigurau Cymru gyfan ar gyfer rhestrau aros RTT. Mae’r perfformiad yn well na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser, ac yn waeth na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol.

Cwm Taf Morgannwg

Ffigur 4: Crynodeb o berfformiad Cwm Taf Morgannwg hyd at fis Hydref 2024 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Tachwedd 2024 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Cwm Taf Morgannwg o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Set ddata adrannau achosion brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.

[Nodyn 2]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd.

[Nodyn 3]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Gofal heb ei drefnu ym mis Tachwedd 2024

Ymatebwyd i 46.8% o alwadau ‘coch’ o fewn 8 munud. Yn gyffredinol, mae’r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd 68.1% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Mae’r duedd wedi bod yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.

Arhosodd 9.6% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Yn ddiweddar, mae hyn wedi gostwng yn gyffredinol.

Gofal wedi'i drefnu ym mis Hydref 2024

Roedd 26.3% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae’r niferoedd wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19 ond maent yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Roedd 1.3% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae’r niferoedd wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19 ac maent wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig. 

Roedd 24.5% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Mae’r niferoedd wedi gostwng ers dechrau 2021 ond maent wedi codi’n ddiweddar.

Roedd 3.2% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd. Mae’r niferoedd wedi gostwng yn sylweddol ers dechrau 2022.

Roedd 22.5% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae'r niferoedd wedi bod yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dechreuodd 60.8% o lwybrau canser eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, ac mae’r perfformiad wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Crynodeb

O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Cwm Taf Morgannwg yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion mewn adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd, ac mae’r ganran sy’n aros mwy na 12 awr ychydig yn well na chyfartaledd Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’r perfformiad yng Nghwm Taf Morgannwg yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig a therapïau, ac yn debyg i ffigurau Cymru gyfan ar gyfer rhestrau aros RTT. Mae’r perfformiad ychydig yn well na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser, ac yn waeth na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol.

Hywel Dda

Ffigur 5: Crynodeb o berfformiad Hywel Dda hyd at fis Hydref 2024 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Tachwedd 2024 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Hywel Dda o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Set ddata adrannau achosion brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.

[Nodyn 2]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd.

[Nodyn 3]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Gofal heb ei drefnu ym mis Tachwedd 2024

Ymatebwyd i 49.5% o alwadau ‘coch’ o fewn 8 munud. Mae'r perfformiad wedi bod yn gyfnewidiol dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd 63.8% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Mae rhywfaint o ostyngiad wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf.

Arhosodd 11.2% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Yn gyffredinol, mae hyn wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Gofal wedi'i drefnu ym mis Hydref 2024

Roedd 30.0% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae hyn wedi gostwng ers y lefel uchaf yn 2020, ond mae’n dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Roedd 23.1% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae hyn yn is na’r lefel uchaf yn 2020 ond mae wedi bod yn codi’n gyffredinol ers canol 2021. 

Roedd 15.8% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Er gwaethaf y ffaith bod y niferoedd wedi gostwng erbyn 2023, maen nhw wedi sefydlogi ers hynny.

Roedd 2.1% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd. Mae’r niferoedd wedi bod yn gostwng ers dechrau 2022.

Roedd 5.0% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Er gwaethaf y gostyngiad yng nghanol 2022, mae'r niferoedd wedi sefydlogi’n gyffredinol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd 44.7% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. Mae hyn wedi bod yn gyfnewidiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf heb unrhyw duedd amlwg. 

Crynodeb

O ran amseroedd ymateb ambiwlansys i alwadau ‘coch’, mae perfformiad Hywel Dda yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion mewn adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr ychydig yn is na chyfartaledd Cymru, ac mae’r ganran sy’n aros mwy na 12 awr yn debyg i gyfartaledd Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’r perfformiad yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, yn waeth ar gyfer therapïau, ac yn well ar gyfer rhestrau aros RTT. Mae’r perfformiad yn waeth na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser, ac yn well na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol.

Powys

Ffigur 6: crynodeb o berfformiad hyd at fis Hydref 2024 ar gyfer gofal wedi'i drefnu, a mis Tachwedd 2024 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Powys o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid bod yn ofalus wrth gymharu’r mesurau hyn.

[Nodyn 2]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd.

[Nodyn 3]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024. 

Gofal heb ei drefnu ym mis Tachwedd 2024

Ymatebwyd i 47.6% o alwadau ‘coch’ o fewn 8 munud. Mae’r perfformiad wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.

Gofal wedi’i drefnu ym mis Hydref 2024

Roedd 16.9% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae’r niferoedd wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19 ond maent yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Dim ond 1 llwybr oedd yn aros dros yr amser targed ar gyfer gwasanaethau therapi. Mae’r niferoedd wedi bod ar yr un lefelau â’r rhai cyn y pandemig ers cryn amser.

Crynodeb

Ar gyfer rhai mesurau, nid oedd modd cymharu Powys â’r byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â byrddau iechyd eraill. Fodd bynnag, mae’r ffigurau’n cymharu’n fras â byrddau iechyd eraill ar gyfer ymateb ambiwlansys a llwybrau diagnosteg a therapi. O ran amseroedd ymateb ambiwlansys i alwadau ‘coch’, mae perfformiad Powys yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae'r perfformiad yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, ac ar gyfer therapïau ar hyn o bryd.

Bae Abertawe

Ffigur 7: Crynodeb o berfformiad Bae Abertawe hyd at fis Hydref 2024 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Tachwedd 2024 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd Bae Abertawe o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Set ddata adrannau achosion brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.

[Nodyn 2]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd.

[Nodyn 3]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Gofal heb ei drefnu ym mis Tachwedd 2024

Ymatebwyd i 46.1% o alwadau ‘coch’ o fewn 8 munud. Mae’r perfformiad wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.

Cafodd 74.0% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Nid oes tuedd hirdymor amlwg o ran perfformiad.

Arhosodd 11.0% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae hyn wedi gostwng yn ddiweddar ers y lefel uchaf ym mis Rhagfyr 2022.

Gofal wedi’i drefnu ym mis Hydref 2024

Roedd 26.2% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae hyn wedi bod ar i lawr ers mis Mai 2020, ond mae’n dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Roedd 2.8% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae hyn yn agos at y lefel cyn y pandemig ac mae wedi bod yn is na 10% dros y 2 flynedd diwethaf.

Roedd 14.8% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.

Roedd 1.3% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd. Mae’r niferoedd wedi bod yn gostwng ers dechrau 2022.

Ar hyn o bryd, does dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae hyn wedi bod yn wir mewn 12 o’r 13 mis diwethaf.

Dechreuodd 56.0% o lwybrau canser eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, heb unrhyw duedd hirdymor amlwg.

Crynodeb

O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Bae Abertawe yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion mewn adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn well na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd, ac mae’r ganran sy’n aros mwy na 12 awr yn debyg i gyfartaledd Cymru.

Ar hyn o bryd mae perfformiad bwrdd iechyd Bae Abertawe yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig a therapïau, rhestrau aros RTT ac amseroedd aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae’r perfformiad yn debyg i gyfartaledd Cymru o ran amseroedd aros am driniaeth canser.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gellir dod o hyd i wybodaeth ansawdd a methodoleg bellach sy'n berthnasol i'r datganiad ystadegol hwn yn adroddiad ansawdd crynodeb gweithgarwch a pherfformiad y GIG.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).  

Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007. 

Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) sy’n rheoleiddio ein hymarfer ystadegol. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.

Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i DHCW er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.

Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB) (DHCW), sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.

Caiff y ffigurau a gyhoeddwyd eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, a defnyddio eu barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi. 

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi'i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ansawdd

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data, ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.

Gwerth

Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain.

Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.

Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.

Amseroldeb y data sy’n darparu’r diweddariad mwyaf diweddar gan ddefnyddio data dibynadwy. 

Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost i regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 114/2024

Image