Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r datganiad ystadegol chwarterol hwn yn rhoi crynodeb o ddata perfformiad y GIG ar gyfer y byrddau iechyd lleol unigol yng Nghymru. Cyhoeddir dadansoddiad misol ar gyfer Cymru gyfan yn y ddogfen gysylltiedig Crynodeb Perfformiad a Gweithgarwch y GIG, ac mae data misol ar lefel byrddau iechyd lleol hefyd ar gael ar StatsCymru.

Cyflwynir dadansoddiadau yma ar gyfer pob bwrdd iechyd yn seiliedig ar dargedau perfformiad sefydledig Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal heb ei drefnu: ymateb ambiwlansys ac adrannau brys a gofal wedi’i drefnu: apwyntiadau cleifion allanol, diagnosteg a therapïau, amser aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) a thriniaeth canser. Gallwch lywio i fyrddau iechyd penodol gan ddefnyddio'r hyperddolenni adran yng nghornel chwith uchaf yr adroddiad hwn.

Mae data yn yr adroddiad ystadegol hwn wedi cael ei ddarparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) oni nodir yn wahanol. Ar gyfer rhai mesurau, nid oedd modd cymharu Powys â’r byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â byrddau iechyd eraill.

Y prif bwyntiau

O’r mesurau sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn, yr unig fwrdd iechyd sy’n cyrraedd unrhyw un o’r targedau perfformiad ar hyn o bryd yw Bae Abertawe, sydd heb fod ag unrhyw apwyntiad cyntaf fel claf allanol ers dros flwyddyn. Mae nifer y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed ar gyfer gwasanaethau therapi hefyd yn y ffigyrau sengl ym Mae Abertawe. 

O ran galwadau brys am ambiwlans a galwadau ‘coch’, Caerdydd a’r Fro oedd â'r gyfran uchaf o ymatebion o fewn 8 munud ym mis Awst (55.5%). Bae Abertawe oedd â’r ffigur isaf (45.1%) (r).

(r) Wedi'i ddiwygio ar 14 Hydref 2024.

O ran adrannau achosion brys, Aneurin Bevan oedd â’r gyfran uchaf o gleifion a dderbyniwyd, a drosglwyddwyd neu a ryddhawyd o fewn y targed amser o 4 awr (77.7%) a Chaerdydd a’r Fro oedd â’r gyfran isaf (59.8%).

Ar hyn o bryd, Caerdydd a’r Fro sydd â’r nifer isaf sy’n aros mwy na 12 awr mewn adrannau brys (925), a Betsi Cadwaladr sydd â’r nifer uchaf (3,151).

Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran uchaf o lwybrau RTT a oedd yn aros mwy na blwyddyn ym mis Gorffennaf (25.0% o lwybrau), a Bae Abertawe oedd â’r gyfran isaf (14.2% o lwybrau). Betsi Cadwaladr hefyd oedd â’r gyfran uchaf yn aros mwy na dwy flynedd (5.3%), a Bae Abertawe oedd â’r gyfran isaf (1.3%). 

O ran apwyntiadau cyntaf fel cleifion allanol, Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran uchaf o lwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn ym mis Gorffennaf (24.3% o lwybrau), a Bae Abertawe oedd â’r gyfran isaf, gan nad oedd unrhyw lwybrau wedi gorfod aros mwy na blwyddyn.

Ar hyn o bryd, Caerdydd a’r Fro sydd â’r gyfran uchaf o arosiadau diagnostig sy’n fwy na’r amser targed o 8 wythnos (61.3% o lwybrau), a Phowys sydd â’r gyfran isaf (20.7%).

O ran therapïau, Hywel Dda sydd â’r gyfran uchaf sy’n aros yn hirach na’r amser targed o 14 wythnos (22.4% o lwybrau), a Phowys sydd â’r gyfran isaf (llai nag 1%).

O ran gwasanaethau canser, Caerdydd a’r Fro sydd â’r gyfran uchaf o gleifion sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r pwynt amheuaeth (63.1%), a Chwm Taf Morgannwg sydd â’r gyfran isaf (50.4%).

Aneurin Bevan

Gofal heb ei drefnu

Amseroedd ymateb ambiwlansys brys

Ffigur 1: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, Ebrill 2019 i Awst 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod 53.0% o alwadau wedi cael ymateb o fewn 8 munud ym mis Awst 2024. Yn gyffredinol, mae’r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru 

[Nodyn 1]: Roedd diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys, a derbyniadau i’r ysbyty

Ffigur 2: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, Ebrill 2019 i Awst 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell yn dangos bod 77.7% o gleifion wedi cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr ym mis Awst 2024. Nid oes tuedd hirdymor amlwg mewn perfformiad.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Ffigur 3: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys y GIG, Ebrill 2019 i Awst 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell yn dangos bod 1,175 o gleifion wedi aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ym mis Awst 2024. Yn gyffredinol, mae hyn wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Crynodeb

O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Aneurin Bevan yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn well na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr yn dal yn uwch o lawer na’r targed perfformiad.

Gweithgarwch gofal wedi’i drefnu

Amseroedd aros diagnostig a therapi

Ffigur 4: Canran yr holl lwybrau yn aros yn hirach na’r amser targed o 8 wythnos am brofion diagnostig, Tachwedd 2019 i Orffennaf 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig wedi gostwng ers dechrau pandemig y coronafeirws, ond eu bod yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Daeth data niwroffisioleg ar gyfer bwrdd iechyd lleol Aneurin Bevan ar gael ym mis Mehefin 2023, gan ychwanegu tua 1,000 o lwybrau nad oeddent wedi'u hadrodd o'r blaen. Roedd gwasanaethau diagnostig niwroffisioleg yn cael eu darparu gan Aneurin Bevan cyn Mehefin 2023, ond nid yw'r data hynny ar gael. Mae hyn yn effeithio ar gymaroldeb data diagnosteg ar gyfer Aneurin Bevan a Chymru dros amser.

Ffigur 5: Canran yr holl lwybrau yn aros yn hirach na’r amser targed o 14 wythnos am wasanaethau therapi, Tachwedd 2019 i Orffennaf 2024 [Nodyn 1] 
Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi wedi gostwng ers dechrau pandemig y coronafeirws, a’u bod bellach wedi setlo rhwng 0 a 10%.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Amser aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Ffigur 6: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na blwyddyn i ddechrau triniaeth, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn wedi cynyddu’n sylweddol ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae’r niferoedd wedi dechrau cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

Ffigur 7: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na 2 flynedd i ddechrau triniaeth, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd wedi cynyddu’n sylweddol ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2022, mae’r niferoedd wedi dechrau cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

Ffigur 8: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau a oedd yn aros am fwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf wedi cynyddu’n sydyn yn ystod pandemig y coronafeirws. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae'r niferoedd wedi bod yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion yn aros yn hwy nag un neu ddwy flynedd, a llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf fesul bwrdd iechyd lleol, swyddogaeth triniaeth/arbenigedd ac oedran, Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Gwasanaethau canser

Ffigur 9: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, Mehefin 2019 i Orffennaf 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed wedi amrywio dros amser. Mae’r ffigur diweddaraf ar gyfer Gorffennaf 2024 (55.2%) yn is o lawer na’r targed perfformiad (75%).

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cyflwynwyd proses newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ym mis Rhagfyr 2020.

Crynodeb

Yn Aneurin Bevan, mae’r perfformiad yn well ar hyn o bryd na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig a therapïau, ac mae’n debyg i ffigurau cyffredinol Cymru ar gyfer rhestrau aros RTT. Mae’r perfformiad yn debyg i’r cyfartaledd yng Nghymru ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser, ac yn debyg i gyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros cyntaf am apwyntiadau cleifion allanol.

Betsi Cadwaladr

Gofal heb ei drefnu 

Amseroedd ymateb ambiwlansys brys

Ffigur 10: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, Ebrill 2019 i Awst 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell yn dangos bod 52.0% o alwadau wedi cael ymateb o fewn 8 munud ym mis Awst 2024. Yn gyffredinol, mae’r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru 

[Nodyn 1]: Roedd diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys, a derbyniadau i’r ysbyty

Ffigur 11: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, Ebrill 2019 i Awst 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart linell yn dangos bod 67.1% o gleifion wedi cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr ym mis Awst 2024. Nid oes tuedd hirdymor amlwg o ran perfformiad.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Ffigur 12: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys y GIG, Ebrill 2019 i Awst 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart linell yn dangos bod 3151 o gleifion wedi aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ym mis Awst 2024. Yn gyffredinol, mae hyn wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Crynodeb

O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Betsi Cadwaladr yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr yn dal yn uwch o lawer na’r targed perfformiad.

Gweithgarwch gofal wedi’i drefnu

Amseroedd aros diagnostig a therapi

Ffigur 13: Canran yr holl lwybrau yn aros yn hirach na’r amser targed o 8 wythnos am brofion diagnostig, Tachwedd 2019 i Orffennaf 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig wedi gostwng ers dechrau pandemig y coronafeirws, ond eu bod yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

Ffigur 14: Canran yr holl lwybrau yn aros yn hirach na’r amser targed o 14 wythnos am wasanaethau therapi, Tachwedd 2019 i Orffennaf [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Image

Disgrifiad o Ffigur 14: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed ar gyfer gwasanaethau therapi wedi dechrau gostwng o’r lefel uchaf ar ddechrau pandemig y coronafeirws, ond wedi cynyddu eto ganol 2021 cyn dechrau gostwng ganol 2022. Mae’r niferoedd wedi dechrau cynyddu eto ers canol 2023.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Ym mis Ebrill 2020 ni chyflwynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddata ar gyfer therapïau, gweler yr wybodaeth ansawdd i gael rhagor o wybodaeth. 

[Nodyn 2]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Amser aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Ffigur 15: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na blwyddyn i ddechrau triniaeth, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 15: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn wedi cynyddu’n sylweddol ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae’r niferoedd wedi dechrau cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

Ffigur 16: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na 2 flynedd i ddechrau triniaeth, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 16: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd wedi cynyddu’n sylweddol ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2022, mae’r niferoedd wedi dechrau cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

Ffigur 17: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 17: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau a oedd yn aros am fwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf wedi cynyddu’n sydyn yn ystod pandemig y coronafeirws. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae’r niferoedd wedi bod yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion yn aros yn hwy nag un neu ddwy flynedd, a llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf fesul bwrdd iechyd lleol, swyddogaeth triniaeth/arbenigedd ac oedran, Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Gwasanaethau canser

Ffigur 18: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, Mehefin 2019 i Orffennaf 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 18: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed wedi amrywio dros amser. Mae’r ffigur diweddaraf ar gyfer Gorffennaf 2024 (52.6%) yn is o lawer na’r targed perfformiad (75%).

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cyflwynwyd proses newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ym mis Rhagfyr 2020.

Crynodeb

Yn Betsi Cadwaladr, mae’r perfformiad yn well ar hyn o bryd na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, yn waeth ar gyfer therapïau, ac yn well na ffigurau cyffredinol Cymru ar gyfer rhestrau aros RTT.  Mae’r perfformiad yn debyg i’r cyfartaledd yng Nghymru ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser, ac yn waeth na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros cyntaf am apwyntiadau fel cleifion allanol.

Caerdydd a'r Fro

Gofal heb ei drefnu

Amseroedd ymateb ambiwlansys brys

Ffigur 19: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, Ebrill 2019 i Awst 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 19: Siart linell yn dangos bod 55.5% o alwadau wedi cael ymateb o fewn 8 munud ym mis Awst 2024. Yn gyffredinol, mae'r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru 

[Nodyn 1]: Roedd diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys, a derbyniadau i’r ysbyty

Ffigur 20: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, Ebrill 2019 i Awst 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 20: Siart linell yn dangos bod 59.8% o gleifion wedi cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr ym mis Awst 2024. Mae gostyngiad wedi bod mewn perfformiad dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Ffigur 21: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys y GIG, Ebrill 2019 i Awst 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 21: Siart linell yn dangos bod 925 o gleifion wedi aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ym mis Awst 2024. Mae hyn wedi amrywio'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Crynodeb

O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Caerdydd a’r Fro yn well na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr yn dal yn uwch o lawer na’r targed perfformiad.

Gweithgarwch gofal wedi’i drefnu

Amseroedd aros diagnostig a therapi

Ffigur 22: Canran yr holl lwybrau yn aros yn hirach na’r amser targed o 8 wythnos am brofion diagnostig, Tachwedd 2019 i Orffennaf 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 22: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig wedi gostwng ers dechrau pandemig y coronafeirws, ond eu bod yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

Ffigur 23: Canran yr holl lwybrau yn aros yn hirach na’r amser targed o 14 wythnos am wasanaethau therapi, Tachwedd 2019 i Orffennaf [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 23: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi wedi gostwng ers dechrau pandemig y coronafeirws a’u bod bellach wedi setlo rhwng 0 a 10%.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Amser aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Ffigur 24: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na blwyddyn i ddechrau triniaeth, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 24: Siart linell yn dangos bod llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn wedi cynyddu’n sylweddol ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae’r niferoedd wedi dechrau cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

Ffigur 25: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na 2 flynedd i ddechrau triniaeth, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 25: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd wedi cynyddu’n sylweddol ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Mae’r niferoedd wedi bod yn gostwng ers dechrau 2022.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

Ffigur 26: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 26: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau a oedd yn aros am fwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf wedi cynyddu’n sydyn yn ystod pandemig y coronafeirws. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae’r niferoedd wedi bod yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion yn aros yn hwy nag un neu ddwy flynedd, a llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf fesul bwrdd iechyd lleol, swyddogaeth triniaeth/arbenigedd ac oedran, Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Gwasanaethau canser

Ffigur 27: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, Mehefin 2019 i Orffennaf 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 27: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed wedi amrywio dros amser. Mae’r ffigur diweddaraf ar gyfer Gorffennaf 2024 (63.1%) yn is na’r targed perfformiad (75%).

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cyflwynwyd proses newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ym mis Rhagfyr 2020.

Crynodeb

Yng Nghaerdydd a’r Fro, mae’r perfformiad yn waeth ar hyn o bryd na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, yn well ar gyfer therapïau, ac yn debyg i ffigurau cyffredinol Cymru ar gyfer rhestrau aros RTT. Mae’r perfformiad yn well na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser, ac yn debyg i gyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros cyntaf am apwyntiadau fel cleifion allanol.

Cwm Taf Morgannwg

Gofal heb ei drefnu

Amseroedd ymateb ambiwlansys brys

Ffigur 28: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, Ebrill 2019 i Awst 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 28: Siart linell yn dangos bod 49.8% o alwadau wedi cael ymateb o fewn 8 munud ym mis Awst 2024. Yn gyffredinol, mae perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru 

[Nodyn 1]: Roedd diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys, a derbyniadau i’r ysbyty

Ffigur 29: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, Ebrill 2019 i Awst 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 29: Siart linell yn dangos bod 66.6% o gleifion wedi cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr ym mis Awst 2024. Mae’r duedd wedi bod yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Ffigur 30: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys y GIG, Ebrill 2019 i Awst 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 30: Siart linell yn dangos bod 1570 o gleifion wedi aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ym mis Awst 2024. Yn gyffredinol, mae hyn wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Crynodeb

O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Cwm Taf Morgannwg yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr yn dal yn uwch o lawer na’r targed perfformiad.

Gweithgarwch gofal wedi’i drefnu

Amseroedd aros diagnostig a therapi

Ffigur 31: Canran yr holl lwybrau yn aros yn hirach na’r amser targed o 8 wythnos am brofion diagnostig, Tachwedd 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 31: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig wedi gostwng ers dechrau pandemig y coronafeirws, ond eu bod yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

Ffigur 32: Canran yr holl lwybrau yn aros yn hirach na’r amser targed o 14 wythnos am wasanaethau therapi, Tachwedd 2019 i Orffennaf [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 32: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi wedi gostwng ers dechrau pandemig y coronafeirws, a’u bod bellach yn ôl i’r un lefelau cyn y pandemig. Roedd y newid hwn wedi effeithio’n anghymesur ar Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, oherwydd roedd cyfran fawr iawn o’r llwybrau roedden nhw wedi rhoi gwybod amdanyn nhw’n flaenorol yn y categori hwn.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Amser aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Ffigur 33: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na blwyddyn i ddechrau triniaeth, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 33: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn wedi cynyddu’n sylweddol ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Mae’r niferoedd wedi gostwng ers dechrau 2021.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

Ffigur 34: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na 2 flynedd i ddechrau triniaeth, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 34: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd wedi cynyddu’n sylweddol ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Mae’r niferoedd wedi bod yn gostwng ers dechrau 2022.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

Ffigur 35: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 35: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau a oedd yn aros am fwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf wedi cynyddu’n sydyn yn ystod pandemig y coronafeirws. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae’r niferoedd wedi bod yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion yn aros yn hwy nag un neu ddwy flynedd, a llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf fesul bwrdd iechyd lleol, swyddogaeth triniaeth/arbenigedd ac oedran, Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Gwasanaethau canser

Ffigur 36: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, Mehefin 2019 i Orffennaf 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 36: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed wedi amrywio dros amser. Mae’r ffigur diweddaraf ar gyfer Gorffennaf 2024 (50.4%) yn is o lawer na’r targed perfformiad (75%).

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cyflwynwyd proses newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ym mis Rhagfyr 2020.

Crynodeb

Yng Nghwm Taf Morgannwg, mae’r perfformiad yn debyg ar hyn o bryd i ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, yn well ar gyfer therapïau, ac yn debyg i ffigurau cyffredinol Cymru ar gyfer rhestrau aros RTT. Mae’r perfformiad yn waeth na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser, ac yn waeth na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros cyntaf am apwyntiadau fel cleifion allanol.

Hywel Dda

Gofal heb ei drefnu

Amseroedd ymateb ambiwlansys brys

Ffigur 37: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, Ebrill 2019 i Awst 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 37: Siart linell yn dangos bod 54.8% o alwadau wedi cael ymateb o fewn 8 munud ym mis Awst 2024. Mae'r perfformiad wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru 

[Nodyn 1]: Roedd diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys, a derbyniadau i’r ysbyty

Ffigur 38: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, Ebrill 2019 i Awst 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 38: Siart linell yn dangos bod 66.2% o gleifion wedi cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr ym mis Awst 2024. Mae rhywfaint o ostyngiad wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Ffigur 39: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys y GIG, Ebrill 2019 i Awst 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 39: Siart linell yn dangos bod 1466 o gleifion wedi aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ym mis Awst 2024. Yn gyffredinol, mae hyn wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Crynodeb

O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Hywel Dda yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr yn dal yn uwch o lawer na’r targed perfformiad.

Gweithgarwch gofal wedi’i drefnu

Amseroedd aros diagnostig a therapi

Ffigur 40: Canran yr holl lwybrau yn aros yn hirach na’r amser targed o 8 wythnos am brofion diagnostig, Tachwedd 2019 i Orffennaf 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 40: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig wedi gostwng ers dechrau pandemig y coronafeirws, ond eu bod yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

Ffigur 41: Canran yr holl lwybrau yn aros yn hirach na’r amser targed o 14 wythnos am wasanaethau therapi, Tachwedd 2019 i Orffennaf [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 41: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi wedi dechrau gostwng ers dechrau pandemig y coronafeirws, ond bod y niferoedd wedi dechrau cynyddu eto yng nghanol 2021. 

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Amser aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Ffigur 42: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na blwyddyn i ddechrau triniaeth, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 42: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn wedi cynyddu’n sylweddol ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae’r niferoedd wedi dechrau cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

Ffigur 43: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na 2 flynedd i ddechrau triniaeth, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 43: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd wedi cynyddu’n sylweddol ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Mae’r niferoedd wedi bod yn gostwng ers dechrau 2022.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

Ffigur 44: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 44: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau a oedd yn aros am fwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf wedi cynyddu’n sydyn yn ystod pandemig y coronafeirws. Er gwaethaf y gostyngiad yng nghanol 2022, mae'r niferoedd wedi bod yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion yn aros yn hwy nag un neu ddwy flynedd, a llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf fesul bwrdd iechyd lleol, swyddogaeth triniaeth/arbenigedd ac oedran, Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Gwasanaethau canser

Ffigur 45: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, Mehefin 2019 i Orffennaf 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 45: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed wedi amrywio dros amser. Mae’r ffigur diweddaraf ar gyfer Gorffennaf 2024 (55.0%) yn is o lawer na’r targed perfformiad (75%).

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cyflwynwyd proses newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ym mis Rhagfyr 2020.

Crynodeb

Yn Hywel Dda, mae’r perfformiad yn well ar hyn o bryd na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, yn waeth ar gyfer therapïau, ac yn well na ffigurau cyffredinol Cymru ar gyfer rhestrau aros RTT. Mae’r perfformiad yn debyg i’r cyfartaledd yng Nghymru ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser, ac yn well na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros cyntaf am apwyntiadau fel cleifion allanol.

Powys

Ar gyfer rhai mesurau, nid oedd modd cymharu Powys â’r byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â byrddau iechyd eraill.

Gofal heb ei drefnu

Amseroedd ymateb ambiwlansys brys

Ffigur 46: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, Ebrill 2019 i Awst 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 46: Siart linell yn dangos bod 50.6% o alwadau wedi cael ymateb o fewn 8 munud ym mis Awst 2024. Yn gyffredinol, mae perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru 

[Nodyn 1]: Roedd diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Gweithgarwch gofal wedi’i drefnu

Amseroedd aros diagnostig a therapi

Ffigur 47: Canran yr holl lwybrau yn aros yn hirach na’r amser targed o 8 wythnos am brofion diagnostig, Tachwedd 2019 i Orffennaf 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 47: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig wedi gostwng ers dechrau pandemig y coronafeirws, ond eu bod yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

Ffigur 48: Canran yr holl lwybrau yn aros yn hirach na’r amser targed o 14 wythnos am wasanaethau therapi, Tachwedd 2019 i Orffennaf [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 48: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi wedi gostwng ers dechrau pandemig y coronafeirws, a’u bod bellach yn ôl i’r lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Crynodeb

Ar gyfer rhai mesurau, nid oedd modd cymharu Powys â’r byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â byrddau iechyd eraill. O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Powys yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae'r perfformiad yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, ac yn well ar gyfer therapïau.

Bae Abertawe

Gofal heb ei drefnu

Amseroedd ymateb ambiwlansys brys

Ffigur 49: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, Ebrill 2019 i Awst 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 49: Siart linell yn dangos bod 45.1% o alwadau wedi cael ymateb o fewn 8 munud ym mis Awst 2024. Yn gyffredinol, mae’r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru 

[Nodyn 1]: Roedd diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys, a derbyniadau i’r ysbyty

Ffigur 50: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, Ebrill 2019 i Awst 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 50: Siart linell yn dangos bod 76.6% o gleifion wedi cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr ym mis Awst 2024. Nid oes tuedd hirdymor amlwg o ran perfformiad.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Ffigur 51: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys y GIG, Ebrill 2019 i Awst 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 51: Siart linell yn dangos bod 1202 o gleifion wedi aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ym mis Awst 2024. Mae hyn wedi gostwng yn ddiweddar ers y ffigur uchaf o 1,600.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Crynodeb

O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Bae Abertawe yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn well na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr yn dal yn uwch o lawer na’r targed perfformiad.

Gweithgarwch gofal wedi’i drefnu

Amseroedd aros diagnostig a therapi

Ffigur 52: Canran yr holl lwybrau yn aros yn hirach na’r amser targed o 8 wythnos am brofion diagnostig, Tachwedd 2019 i Orffennaf 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 52: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig wedi gostwng ers dechrau pandemig y coronafeirws, ond eu bod yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

Ffigur 53: Canran yr holl lwybrau yn aros yn hirach na’r amser targed o 14 wythnos am wasanaethau therapi, Tachwedd 2019 i Orffennaf [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 53: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi wedi gostwng ers dechrau pandemig y coronafeirws, a’u bod bellach i lawr i ffigyrau sengl.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Amser aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Ffigur 54: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na blwyddyn i ddechrau triniaeth, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 54: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn wedi cynyddu’n sylweddol ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Mae’r niferoedd wedi bod yn gostwng ers dechrau 2021.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

Ffigur 55: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na 2 flynedd i ddechrau triniaeth, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 55: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd wedi cynyddu’n sylweddol ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Mae’r niferoedd wedi bod yn gostwng ers dechrau 2022.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

Ffigur 56: Canran yr holl lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf, Ebrill 2019 i Orffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 56: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau a oedd yn aros am fwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf wedi cynyddu’n sydyn yn ystod pandemig y coronafeirws. Roedd y niferoedd yn gostwng o ganol 2022 ac maent wedi bod yn sero ers 9 mis.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion yn aros yn hwy nag un neu ddwy flynedd, a llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf fesul bwrdd iechyd lleol, swyddogaeth triniaeth/arbenigedd ac oedran, Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Gwasanaethau canser

Ffigur 57: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, Mehefin 2019 i Orffennaf 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 57: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed wedi amrywio dros amser. Mae’r ffigur diweddaraf ar gyfer Gorffennaf 2024 (58.4%) yn is na’r targed perfformiad (75%).

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cyflwynwyd proses newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ym mis Rhagfyr 2020.

Crynodeb

Ym Mae Abertawe, mae’r perfformiad yn well ar hyn o bryd na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig a therapïau, ac yn well na ffigurau cyffredinol Cymru ar gyfer rhestrau aros RTT. Mae’r perfformiad yn debyg i’r cyfartaledd yng Nghymru ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser, ac yn well na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros cyntaf am apwyntiadau fel cleifion allanol.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gellir dod o hyd i wybodaeth ansawdd a methodoleg bellach sy'n berthnasol i'r datganiad ystadegol hwn yn adroddiad ansawdd crynodeb gweithgarwch a pherfformiad y GIG.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).  

Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007. 

Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) sy’n rheoleiddio ein hymarfer ystadegol. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.

Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i DHCW er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.

Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB) (DHCW), sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.

Caiff y ffigurau a gyhoeddwyd eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, a defnyddio eu barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi. 

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi'i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ansawdd

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data, ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.

Gwerth

Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain.

Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.

Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.

Amseroldeb y data sy’n darparu’r diweddariad mwyaf diweddar gan ddefnyddio data dibynadwy. 

Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost i regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 83/2024

Image