Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad cynhwysfawr sydd yn cynnwys data Ionawr i Fedi 2018 o’r prif arolygon twristiaeth.

Teithiau dros nos o’r DU: diwygiedig

Mae’r data wedi cael eu diwygio yn dilyn cywiriad i ddata Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr. Am ragor o wybodaeth, gweler adran ‘ymweliadau dros nos gan drigolion Prydain Fawr’ o’r adroddiad.

Bu 8.1 miliwn o deithiau dros nos o’r DU i Gymru yn ystod naw mis cyntaf 2018, yn cynhyrchu gwariant o £1.539 biliwn.

Teithiau undydd o’r DU

Yn ystod naw mis cyntaf 2018 bu 75 miliwn o deithiau twristiaeth undydd i Gymru. Cynhyrchodd yr ymweliadau hyn wariant o £3.156 biliwn.

Ymweliadau rhyngwladol

Bu 784,000 o deithiau i Gymru gan ymwelwyr rhyngwladol yn ystod naw mis cyntaf 2018, gyda gwariant o £320 miliwn.

Cyfraddau defnydd llety

Deiliadaeth llety cyfartalog rhwng Ionawr i Medi 2018:

  • Gwestai: 68%
  • Tai llety/Gwely a brecwast: 38%
  • Hunanddarpar: 59%
  • Hostelau: 54%

Baromedr Twristiaeth Cymru

Mae’r cam diweddaraf (Tachwedd 2018) yn dangos bod 78% o fusnesau wedi derbyn lefel uwch neu debyg o ymwelwyr o gymharu â’r un cyfnod yn 2017. Mynegodd 84% o fusnesau hyder ar gyfer y tymor i ddod.

Adroddiadau

Perfformiad twristiaeth Cymru, Ionawr i Medi 2018: diwygiedig , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.