Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad cynhwysfawr sydd yn cynnwys data Ionawr i Fawrth 2018 o’r prif arolygon twristiaeth.

Teithiau dros nos o’r DU: diwygiedig

Mae’r data wedi cael eu diwygio yn dilyn cywiriad i ddata Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr. Am ragor o wybodaeth, gweler adran ‘ymweliadau dros nos gan drigolion Prydain Fawr’ o’r adroddiad.

Bu 1.6 miliwn o deithiau dros nos o’r DU i Gymru yn ystod 3 mis cyntaf 2018, yn cynhyrchu gwariant o £299 miliwn.

Teithiau undydd o’r DU

Yn ystod 3 mis cyntaf 2018 bu 19.8 miliwn o deithiau twristiaeth undydd i Gymru. Cynhyrchodd yr ymweliadau hyn wariant o £1.12 biliwn.

Cyfraddau defnydd llety

Gwestai: 57%
Tai llety/Gwely a brecwast: 21%
Hunanddarpar: 39%
Hostelau: 38%

Baromedr Twristiaeth Cymru

Mae’r cam diweddaraf (Ebrill 2018) yn dangos bod 60% o fusnesau wedi derbyn lefel uwch neu tebyg o ymwelwyr o gymharu â’r un cyfnod yn 2017 (18% yn uwch, 42% yn debyg). Syrthiodd Pasg ym mis Mawrth yn 2018.

Adroddiadau

Perfformiad twristiaeth Cymru, Ionawr i Fawrth 2018: diwygiedig , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ymchwilydd

Rhif ffôn: 0300 061 6026

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.