Adroddiad cynhwysfawr sydd yn cynnwys data ar berfformiad twristiaeth yn 2018, yn cynnwys y farchnad ddomestig a rhyngwladol.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Perfformiad twristiaeth Cymru
Teithiau dros nos o’r DU
Bu 10.02 miliwn (r) o deithiau dros nos o’r DU i Gymru yn 2018, yn cynhyrchu gwariant o £1,853 miliwn.
Teithiau undydd o’r DU
Yn 2018 bu 95.7 miliwn o deithiau twristiaeth undydd i Gymru. Cynhyrchodd yr ymweliadau hyn wariant o 4 biliwn.
Ymweliadau rhyngwladol
Bu 941,000 o deithiau i Gymru gan ymwelwyr rhyngwladol yn 2018, gyda gwariant o £405 miliwn.
Cyfraddau defnydd llety
Deiliadaeth llety cyfartalog rhwng 2018:
- Gwestai: 67%
- Tai llety/Gwely a brecwast: 35%
- Hunanddarpar: 56%
- Hostelau: 53%
Baromedr Twristiaeth Cymru
Mae’r cam diweddaraf (Mai 2019) yn dangos bod 86% o fusnesau wedi derbyn lefel uwch neu debyg o ymwelwyr o gymharu â’r un cyfnod yn 2018. Mynegodd 85% o fusnesau hyder ar gyfer y tymor i ddod.
Adroddiadau
Perfformiad twristiaeth Cymru, Ionawr i Rhagfyr 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.