Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaeth ambiwlans gyrraedd y safle cyn pen 8 munud yn achos bron i 80% o alwadau brys ym mis Medi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd yr amser targed ar gyfer ymateb gan ambiwlans ei gyrraedd bob mis yn ystod y flwyddyn gyntaf o gynnal y peilot o’r model ymateb clinigol, a chafodd hanner y galwadau brys ym mis Medi ymateb mewn ychydig dros bedair munud a hanner.  

Gwnaeth pob bwrdd iechyd yng Nghymru gyrraedd y targed am y pedwerydd mis yn olynol. Cafodd 79.5% o alwadau lle yr oedd perygl o golli bywyd, sy’n cael eu galw’n alwadau Coch, ymateb cyn pen wyth munud. Roedd y ffigur hwn yn gynnydd o 1.4 pwynt canran ar ffigur y mis blaenorol. Yn ôl y targed, dylai 65% o alwadau Coch gael ymateb cyn pen wyth munud.

Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:

“Mae’r rhain yn ffigurau cadarnhaol iawn. Mae’r model ymateb clinigol newydd hwn yn rhoi blaenoriaeth i’r galwadau mwyaf brys ac yn sicrhau bod ymateb yn cael ei roi yn gyflym pan fo angen hynny.

“Cyhoeddodd Gwasanaeth Ambiwlans yr Alban yn ddiweddar eu bod yn mynd i dreialu system ymateb sy’n debyg iawn i fodel Cymru oherwydd eu bod nhw’n gallu gweld bod y dull hwn yn gwella safon y gofal i gleifion. Mae diddordeb wedi’i fynegi gan wledydd eraill ar draws y byd hefyd yn y dull rydyn ni’n ei ddefnyddio.

“Mae staff y gwasanaeth ambiwlans wedi gweithio’n galed dros ben i ddarparu gwasanaeth sy’n sicrhau y gall pob person sy’n ffonio gael ymateb priodol a dw i am ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled.”

Yn ôl yr wybodaeth ddiweddaraf am ddangosyddion ansawdd ambiwlansys, cafodd cleifion galwadau melyn, sef y rheini sydd ag anafiadau difrifol ond lle nad yw eu hanafiadau neu gyflyrau yn golygu bod perygl uniongyrchol i’w bywyd, ymateb gan ambiwlans ymhen 13 o funudau a 23 o eiliadau yn unig ar gyfartaledd.