Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Twristiaeth wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £409,000 o Gronfa Busnesau Bach a Micro i adnewyddu Neuadd Llechwen, sy’n adeilad hanesyddol ger Pontypridd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn wreiddiol, roedd Neuadd Llechwen yn dŷ hir a gafodd ei adeiladu yn yr ail ganrif ar bymtheg ac mae perchenogion y gwesty yn cychwyn ar brosiect i ddarparu mwy o ystafelloedd gwely ac adnewyddu’r gwesty at ansawdd 4 Seren.  

Bydd ailddatblygu’r adeilad, sy’n lleoliad poblogaidd ar gyfer cynnal priodasau, yn cynnwys darparu spa a chyfleuster hamdden, a bydd hyn yn helpu i ddenu mwy o gynrychiolwyr busnes a gwesteion hamdden sy’n gwario llawer o arian.  

Daw’r buddsoddiad yn Neuadd Llechwen o Gronfa Busnesau Bach a Micro drwy Raglen Datblygu Gwledig − Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-20 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a chan  Lywodraeth Cymru.

Bydd y prosiect hwn yn gwella ymhellach yr hyn sy’n cael ei gynnig i dwristiaid yn y rhanbarth.  

Dywedodd Ramish Gor, Cyfarwyddwr Ariannol Neuadd Llechwen: 

“Rydyn ni’n falch ac yn llawn cyffro bod gennym gyfle gwych fel hyn i ddatblygu Neuadd Llechwen ymhellach, gan ei throi yn westy moethus unigryw yng Nghymoedd y De. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’n cymuned leol a thwristiaid o bedwar ban byd i ddod a phrofi lletygarwch ein gwlad hardd. Hoffen ni roi diolch i Croeso Cymru a Llywodraeth Cymru am eu cymorth helaeth ac am ein helpu i droi’n gweledigaeth yn realiti.”

Mae Tasglu’r Cymoedd wedi cyhoeddi adroddiad ar gynnydd yn ystod y flwyddyn gyntaf, sy’n disgrifio’r holl waith a wnaed dros y 12 mis diwethaf. Un o flaenoriaethau allweddol Tasglu’r Cymoedd yw gwella’r llety ar gyfer twristiaid yn yr ardal.

Meddai’r Gweinidog Twristiaeth:  

“Mae buddsoddi mewn gwestai moethus, yn enwedig i greu gwestai at safon 4 seren, yn un o flaenoriaethau y sector Twristiaeth.  Wrth i’r rhanbarth ddatblygu ei gynllunio adfywio ei hunan ym maes Twristiaeth, megis Parc Beicio Cymru, mae hefyd gyfle i sicrhau bod gwestai o ansawdd uchel ar gael a fydd yn denu mwy o ymweliadau dros nos.  Mae’n newyddion gwych bod y perchenogion yn buddsoddi yn Neuadd Llechwen - ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw gyda’r fenter."

Bydd y datblygiad yn cynnal 31 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ychwanegol ac o’r 19 o swyddi presennol, mae 13 ohonynt yn cael eu gwneud gan bobl ifanc. Bydd y datblygiad hwn, felly, yn rhoi cyfle i bobl ifanc yn yr ardal gael swyddi llawn amser a datblygu gyrfa mewn twristiaeth.