Cyngor ar sut i fod yn berchennog ci cyfrifol
Cynnwys
Ydw i’n barod am gi?
Mae cael ci yn ymrwymiad mawr. Dylech gymryd amser i ystyried yn llawn bob agwedd ar fod yn berchen ar gi. Mae deall y gyfraith a'ch dyletswyddau cyfreithiol sy'n berthnasol i berchnogaeth cŵn yn bwysig iawn
Mae’r Côd Ymarfer er Lles Cŵn yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud i fodloni’r safon gofal sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Os ydych yn rhiant neu'n warcheidwad i blentyn o dan 16 oed, yna chi sy'n gyfrifol am unrhyw anifail y mae'r plentyn yn gofalu amdano.
Lles cŵn: côd ymarfer | LLYW.CYMRU
I gael gwybodaeth ynghylch a ydych yn barod am gi, ewch i:
Cyfrifiannell costau anifeiliaid anwes | RSPCA
A ddylwn i gael ci? 10 cwestiwn i ofyn i’ch hun | Dogs Trust
Pa frîd o gŵn sy'n addas imi?
Mae cannoedd o fridiau a mathau o gŵn. Gall dewis yr un cywir ichi fod yn anodd. Peidiwch â dewis ci yn seiliedig ar sut mae'n edrych yn unig heb ymchwilio i'w anghenion o ran ymddygiad ac iechyd. Mae'n bwysig dysgu am y brîd y mae gennych ddiddordeb ynddo i sicrhau mai hwn fydd fwyaf addas ichi a'ch ffordd o fyw.
I gael gwybodaeth ynghylch pa frîd sy’n addas ichi, ewch i:
Pa fath o frid sy’n gweithio i chi? | Blue Cross
Sut ydw i'n gofalu am fy nghi?
O dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid mae'n rhaid ichi allu diwallu pum angen a fydd gan eich ci, sef:
- ei angen am amgylchedd addas
- ei angen am ddiet cytbwys
- ei angen i allu arddangos patrymau ymddygiad arferol
- unrhyw angen sydd ganddo i fyw gydag anifeiliaid eraill, neu ar wahân iddynt.
- ei angen i gael ei amddiffyn rhag poen, dioddefaint, anaf ac afiechyd..
I gael gwybodaeth am ofalu am eich ci a'i anghenion, ewch i:
Lles cŵn: côd ymarfer | LLYW.CYMRU
Sut i ofalu am gi - Dog Facts | RSPCA
Perchnogaeth cŵn cyfrifol | Sut rydyn ni’n helpu | Dogs Trust
Awgrymiadau diogelwch yn y tywydd cynnes a chymorth | Dogs Trust
Help gyda chostau byw cynyddol a gofalu am eich anifeiliaid anwes (rspca.org.uk)
Sut i gadw cŵn bach yn ddiogel yn eich cartref a'ch gardd | Blue Cross
Sut ydw i’n cael ci?
Unwaith y byddwch wedi penderfynu eich bod yn barod am gi, bydd angen ichi ystyried ai mabwysiadu neu brynu gan fridiwr cyfrifol yw'r peth iawn ichi.
Os ydych yn mabwysiadu o ganolfan achub, defnyddiwch ganolfan ag enw da. Yn yr un modd, cyn ichi brynu gan fridiwr, darganfyddwch eu statws trwydded. Bridwyr trwyddedig yw'r rhai sydd â thri neu fwy o eist sy'n bridio. Os mai dim ond un neu ddwy ast sy'n bridio sydd gan rywun, nid oes angen trwydded arnynt.
Y naill ffordd neu'r llall, dylech bob amser weld y ci bach gyda'i fam cyn prynu.
Bydd gan eich Awdurdod Lleol fanylion bridwyr trwyddedig.
Sut ydw i'n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Os ydych yn pryderu am ymddygiad ci a’i berchennog gallwch roi gwybod i’ch Awdurdod Lleol neu’r Heddlu.
O dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, gall yr Heddlu ac Awdurdodau Lleol gyhoeddi Rhybuddion Diogelu Cymunedol (CPWs). Mae'r rhain yn nodi y dylai'r perchennog roi'r gorau i ymddwyn mewn ffordd benodol. Os na chedwir at hyn, gellir cyhoeddi Hysbysiad Gwarchod y Gymuned (CPNs). Gall y rhain gynnwys gofynion penodol megis:
- gwisgo tennyn neu benwar yn gyhoeddus
- mynychu hyfforddiant cŵn
- sicrhau bod eich gardd wedi'i chau'n ddiogel fel na all ci ddianc
Mae torri CPN yn drosedd a gallai arwain at ddirwy lefel 4 (hyd at £2,500). Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol neu ffoniwch 101 i adrodd y digwyddiad.