Neidio i'r prif gynnwy

Mae Julie James, Arweinydd y Tŷ, wedi llongyfarch Llanfihangel-y-fedw am ennill Gwobr Band Eang fawreddog Ewrop oherwydd ei bod yn mwynhau rhai o’r cysylltiadau band eang cyflymaf yn y DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r gymuned hon, rhwng Caerdydd a Chasnewydd, yn mwynhau band eang sydd â gwasanaeth lanlwytho a lawrlwytho ar gyflymder o 1Gbps neu 1000Mbps ar ôl dod ynghyd a manteisio ar gynlluniau talebau band eang Llywodraeth Cymru.

Enillodd y gymuned y wobr yn y categori Modelau Ariannu, Busnes a Buddsoddi Arloesol mewn seremoni ym Mrwsel neithiwr. Beirniaid arbenigol o wledydd ar draws yr Undeb Ewropeaidd oedd yn dewis yr enwebedigion a'r teilyngwyr.

Cododd y pentrefwyr yr arian yr oedd ei angen i adeiladu'r rhwydwaith gan wybod y byddai'r cysylltiadau, ar ôl iddynt gael eu hadeiladu, yn gymwys i gael eu cyllido o dan gynllun Allwedd Band Eang Cymru neu'r Cynllun Taleb Gwibgyswllt a gynigir gan Lywodraeth Cymru unwaith y byddent yn cyrraedd y cyflymder priodol.

Dywedodd Julie James:

"Dyma lwyddiant anhygoel i gymuned Llanfihangel-y-fedw. Drwy ymdeimlad cryf o gymuned, gwaith caled a chefnogaeth gan y Llywodraeth, mae'r gymuned bellach yn gallu manteisio ar fand eang cyflym iawn.  Mae dod yn fuddugol mewn cystadleuaeth sy’n cael ei chynnal ledled yr UE yn glod mawr i'r gymuned ac yn helpu i roi Cymru ar y map.

"Er bod y dirwedd ddigidol yng Nghymru wedi'i thrawsnewid gan ein prosiect Cyflymu Cymru sy'n golygu bod mwy na naw allan o ddeg eiddo bellach yn mwynhau band eang cyflym iawn, mae dal mwy o waith i'w wneud i gyrraedd yr eiddo sy'n weddill.  Nid oes un ateb i bawb a chynllun cymunedol fydd y ffordd orau ymlaen i rai.

"Mae Llanfihangel-y-fedw yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymunedau yn gweithio gyda'i gilydd gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru."

I wybod mwy am Gynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru, ewch i: https://beta.llyw.cymru/cyflymu