Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi cyllid gwerth £18 miliwn i gefnogi Pentref Iechyd a Llesiant integredig newydd gwerth £23 miliwn yn ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Bydd y prosiect yn Sunnyside ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ymestyn dros 4.6 erw a bydd yn cynnwys meddygfa, tai anghenion cyffredinol a thai â chymorth. Yn ogystal â hynny, bydd gwasanaethau cymunedol ar y safle yn helpu i greu Pentref Iechyd a Llesiant llawer mwy, gan hyrwyddo iechyd corfforol ac iechyd meddwl, sicrhau gwell gwybodaeth am ofal a chymorth yn y gymuned a lleihau ynysigrwydd cymdeithasol.
Bydd cyswllt rhwng y datblygiad newydd â Chanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cynnwys llyfrgell, caffi cymunedol, gwasanaeth lles a chyfleusterau chwaraeon a hamdden, gan gynnwys gwasanaeth atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff sy’n gysylltiedig â Chaeau Newbridge.
Ac yntau wedi’i gynllunio i gynnig gofal yn nes at y cartref, bydd y Pentref Iechyd a Llesiant yn darparu 59 o gartrefi fforddiadwy, gan gynnwys chwe chartref â chymorth ar gyfer unigolion sydd ag anableddau corfforol yn ogystal ag anableddau dysgu a 10 fflat i helpu unigolion i drosglwyddo o lety gofal neu lety â chymorth. Bydd ystafell bwrpasol ar gael yno hefyd, i wasanaethau’r trydydd sector a gwasanaethau allgymorth ei defnyddio.
Bydd y prosiect yn cael ei adeiladu ar safle hen swyddfeydd y Cyngor a’r Llys Ynadon a bydd yn defnyddio tir nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i greu mân amlbwrpas a fydd yn agored i holl drigolion y dref a thu hwnt ac yn cyfrannu at waith adfywio parhaus ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r prosiect yn derbyn £10.7m gan Raglen Gyfalaf GIG Cymru, £6.6m gan Grant Tai Cymdeithasol a’r Grant Cyllid Tai, £480,000 gan raglen gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig a £315,000 o Gyllid Seilwaith Gwyrdd gan y cynllun Trawsnewid Trefi, ynghyd â chyllid preifat. Mae’r datblygiad yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chymdeithas Tai Linc Cymru.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg:
Mae pandemig y coronafeirws wedi amlygu pwysigrwydd iechyd meddwl a llesiant. Bydd y pentref iechyd a llesiant newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn rhoi hwb mawr i ofal yn y gymuned a llesiant drwy gynnwys amrywiaeth eang o adnoddau Iechyd a Llesiant, gan gynnwys cymorth i bobl eiddil a phobl hŷn, pobl ifanc agored i niwed a phobl ag anawsterau dysgu. Dylai helpu i osgoi unrhyw dderbyniadau diangen i’r ysbyty neu leoliadau gofal preswyl ac oedi pan fydd rhywun yn barod i gael ei ryddhau o sefydliad gofal.
Mae’r prosiect hwn wedi bod yn enghraifft dda o gydweithio rhwng y Bwrdd Iechyd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Linc Cymru i ddarparu canolfan amlweddog sy’n addas at y diben i ddarparu cymorth cofleidiol i rai o’n pobl fwyaf agored i niwed.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:
Mae’r misoedd diwethaf wedi ein hatgoffa ni i gyd o bwysigrwydd sylfaenol tai fforddiadwy o ansawdd da a chydweithio i gefnogi iechyd a lles unigolion. Bydd y cynllun hwn yn darparu model newydd, gwell ar gyfer gofal sylfaenol sydd ag atebion hyblyg sy’n seiliedig at lety wrth wraidd iddo.
Nid yn unig y bydd y Pentref hwn yn gwella mynediad at amrywiaeth o wasanaethau ac yn dod â nhw ynghyd, bydd hefyd yn lleihau’r galw am ofal brys drwy ganiatáu i ragor o gyflyrau gael eu trin yn y gymuned ac yn nes at y cartref.