Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU am benodi'r Gwir Anrhydeddus Heather Hallett i arwain ymchwiliad Covid-19 ledled y DU, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford:

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

"Rwy'n falch bod y Farwnes Hallett wedi'i phenodi i arwain ymchwiliad cyhoeddus Covid-19 ledled y DU.

"Rwyf wedi dadlau ers tro y dylai’r ymchwiliad fod yn un dan arweiniad Barnwr ac mae gan y Farwnes Hallett brofiad helaeth o ddelio ag ymchwiliadau proffil uchel, sensitif a chymhleth, gan gynnwys o fewn cyd-destun datganoledig.

"Mae'r ddealltwriaeth hon o ddatganoli yn bwysig os yw'r ymchwiliad am graffu'n llawn ar benderfyniadau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill Cymru mewn ymateb i'r pandemig.

"Rwyf hefyd yn falch bod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd Gweinidogion Cymru yn ymwneud â gosod a chytuno ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad.

"Mae'r pandemig wedi bod - ac yn parhau i fod - yn un o'r cyfnodau anoddaf y mae'r wlad hon erioed wedi'i wynebu. Bydd penodi'r Farwnes Hallett yn sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei drin mewn modd sensitif a bod teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn gallu derbyn atebion i'r cwestiynau y maent wedi bod yn eu gofyn."