Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden bod y Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi'i phenodi'n Gadeirydd newydd Chwaraeon Cymru.
Mae Tanni Grey-Thompson yn enwog am ei llwyddiannau fel athletwr, ac mae'n enillydd mwy nag un medal aur mewn chwaraeon Paralympaidd. Bu'n cystadlu dros Gymru mewn pum Gêm Baralympaidd a thair o Gemau'r Gymanwlad, gan ennill 16 medal, gan gynnwys 11 medal aur, ac mae’n dal dros 35 o recordiau byd.
Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd, dechreuodd rasio cadair olwyn yn ddeuddeg oed, ac ymunodd â Chlwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr yn bymtheg oed. Astudiodd ym Mhrifysgol Loughborough, gan ennill gradd anrhydedd mewn Gwleidyddiaeth a Gweinyddiaeth Gymdeithasol, ac mae wedi bod yn aelod annibynnol ar draws y fainc yn Nhŷ'r Arglwyddi ers 2010.
Mae Tanni yn cyfuno profiad helaeth iawn fel athletwr elît gyda phrofiadau personol o weithio fel swyddog datblygu a hyfforddwr llwybr doniau.
Ar hyn o bryd mae'n gadeirydd UK Active (tan fis Mehefin 2022), yn ymddiriedolwr Sefydliad Chwaraeon y Gymanwlad, ac yn llysgennad UNICEF.
Fel Cadeirydd Chwaraeon Cymru, bydd Tanni yn atebol i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon am berfformiad Chwaraeon Cymru ac am gyflawni blaenoriaethau strategol. Mae datblygu a chynnal perthynas agos â'r Dirprwy Weinidog ac aelodau allweddol o Lywodraeth Cymru yn rhan hanfodol o rôl y Cadeirydd.
Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:
"Rwy'n falch iawn o benodi Tanni i'r rôl hollbwysig hon ym maes chwaraeon yng Nghymru. Mae'n dod â chyfoeth o brofiad a llawer o agweddau i'r rôl – nid yn unig y mae wedi ysbrydoli cenedl yn y maes cystadleuol, ond mae ganddi hefyd brofiadau llysgenhadol a strategol sylweddol ar lefel ryngwladol.
"Wrth inni ddathlu llwyddiannau menywod ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw, bydd ei phenodiad yn dod â gwerth enfawr i chwaraeon yng Nghymru. Mae wedi bod yn llais credadwy a darbwyllol i ieuenctid, i fenywod, ac i athletwyr anabl ar draws sawl maes o fywyd cyhoeddus, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi.
"Hoffwn ddiolch hefyd i Lawrence Conway am ei waith rhagorol fel Cadeirydd dros y pum mlynedd diwethaf wrth iddo adael y sefydliad mewn cyflwr da yn dilyn cyfnod heriol dros ben."
Meddai y Farwnes Tanni Grey-Thompson:
"Rwyf wrth fy modd ac wedi fy nghyffroi gan y cyfle hwn i gefnogi pobl i fod yn egnïol ac i fyw bywydau iach. Credaf yn gryf, pe na bawn wedi cael fy ngeni a'm magu yng Nghymru, na fyddwn wedi profi'r cyfleoedd a gefais.
"Ar lefel bersonol, mae'r penodiad hwn yn cwblhau cylch. Chwaraeon Cymru (ac Elite Cymru) oedd y bwrdd cyntaf i mi ymuno ag ef tra oeddwn yn dal i fod yn athletwr oedd yn cystadlu – rhoddodd gipolwg go iawn i mi ar sut mae'r system chwaraeon yn gweithio o'r ddau safbwynt. Mae'n fraint wirioneddol cael cynnig y cyfle hwn."
Bydd y Farwnes Tanni Grey-Thompson yn dechrau yn ei swydd ar y 4ydd o Orffennaf, gan gymryd yr awenau oddi wrth Lawrence Conway sy'n camu i lawr ar ôl 5 mlynedd.
Meddai Lawrence Conway:
"Rwy'n teimlo'n freintiedig iawn o fod wedi arwain Chwaraeon Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r Bwrdd a holl staff Chwaraeon Cymru sydd wedi gweithio mor galed ac wedi bod mor gefnogol dros y cyfnod hwn. Credaf fod y sefydliad mewn lle da iawn ar hyn o bryd.
“Ond mae heriau o'n blaenau bob amser ac ni allaf feddwl am unrhyw un sy'n fwy addas i arwain y sefydliad wrth ymateb i'r heriau hynny na Tanni, ac mae ei hanes a'i hymrwymiad i chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar bob lefel yn siarad drostynt eu hunain. Dymunaf bob llwyddiant iddi."