Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pum aelod newydd yn chwarae rhan bwysig wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Sara Pedersen, Phillip Jones, Iestyn Tudur-Jones, Catherine Nakielny a Gary Yeomans yn ymuno â Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ar 1 Mehefin am gyfnod o dair blynedd, ar ôl cael eu dewis drwy broses penodiadau cyhoeddus.

Bydd yr aelodau newydd hyn yn cynnig cyfoeth o brofiad ac arbenigedd i Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, gan gefnogi'r gwaith o gyflawni pum amcan strategol:

  • Mae gan Gymru anifeiliaid cynhyrchiol ac iach
  • Mae gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da
  • Mae pobl yn ymddiried yn y ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu a'r ffordd y caiff iechyd y cyhoedd ei ddiogelu ac yn hyderus yn eu cylch.
  • Mae gan Gymru economi wledig ffyniannus
  • Mae gan Gymru amgylchedd o ansawdd uchel

Mae aelodau'r grŵp hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth atgyfnerthu’r cysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru, ceidwaid da byw, perchenogion anifeiliaid eraill, y proffesiwn milfeddygol a chynrychiolwyr y diwydiant, gan gwmpasu holl sbectrwm heriau iechyd a lles anifeiliaid.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig:

"Rwy’n falch i benodi pum aelod newydd i Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ac rwy'n sicr y byddant yn gallu gwneud cyfraniad mawr yn y maes pwysig yma.

"Rydym yn hynod falch o'r safonau rhagorol o ran iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru ac mae'r grŵp hwn o bobl yn meddu ar y profiad a'r sgiliau sydd eu hangen i gynyddu ymwybyddiaeth a chyfrannu at godi safonau ymhellach fyth.

"Hoffwn ddiolch hefyd i'r aelodau sy’n dod i ddiwedd eu cyfnod fel Aelodau sef Ifan Lloyd, Dai Davies, Paula Boyden, Abi Reader a Moss Jones am eu gwaith arbennig a'r effaith sylweddol ar ddatblygiad polisi yng Nghymru ym maes iechyd a lles anifeiliaid."

Ychwanegodd Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru:

"Mae Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth nodi blaenoriaethau ac annog cydweithio rhwng pawb sydd â diddordeb yn y maes.

"Mae'r aelodau newydd wedi cael eu dewis yn sgil eu profiad eang a sylweddol, a’u dealltwriaeth o'r hyn sydd bwysicaf i'r sector da byw a’r sector anifeiliaid ehangach yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda nhw dros y tair blynedd nesaf."