Rebecca Evans, Minister for Social Services and Public Health, has today (Friday 24 March) announced appointments to the Advisory Panel on Substance Misuse.
Richard Ives sydd wedi cael ei benodi'n Gadeirydd y Panel am gyfnod dros dro o dri mis rhwng 1 Mawrth 2017 a 31 Mai 2017 ac mae'r Athro Simon Moore wedi cael ei ailbenodi fel aelod o 24 Mawrth 2017 hyd at 23 Mawrth 2020.
Corff cynghori arbenigol annibynnol a noddir gan Lywodraeth Cymru yw'r Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau a sefydlwyd o dan bwerau gweithredol Gweinidogion Cymru.
Gwaith y Panel yw cynghori ar fesurau i atal neu leihau'r camddefnydd o sylweddau, a'r niwed yn sgil hynny i iechyd a chymdeithas. Mae hefyd yn gyfrifol am adolygu'r ffordd y mae Strategaeth Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn cael ei rhoi ar waith.
Bydd y Panel yn cynnwys dim llai nag wyth aelod a dim mwy na deuddeg, gyda phob un yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru.
Nid yw Aelodau na Chadeirydd y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau yn cael eu talu, ond maen nhw'n cael hawlio costau teithio a chynhaliaeth rhesymol. Mae'r ymrwymiad amser hyd at 10 diwrnod y flwyddyn.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Ry'n ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â’r problemau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, a lleihau’r niwed sy’n digwydd o ganlyniad i hynny. Rwy'n falch bod Richard Ives wedi cytuno i dderbyn y cynnig i fod yn Gadeirydd y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau dros y cyfnod dros dro hwn a bod yr Athro Simon Moore wedi cytuno i gael ei ailbenodi. Rwy'n hyderus y bydd eu harbenigedd yn parhau i fod yn amhrisiadwy."