Mae Dafydd Elis Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, wedi cyhoeddi pedwar penodiad newydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae'r aelodau sydd newydd gael eu penodi (o 1 Medi 2019 i 31 Awst 2023) fel a ganlyn:
- Meri Huws yn Is-lywydd; a
- Michael Cavanagh, Quentin Howard a Carl Williams yn ymddiriedolwyr
Ni thelir cyflog am y swyddi uchod a'r ymrwymiad amser yw 18 a 12 diwrnod yn ôl eu trefn.
Mae'r penodiadau hyn wedi cael eu gwneud yn unol â'r Cod Ymarfer ar Benodiadau Cyhoeddus.
Dywedodd Dafydd Elis Thomas:
“Mae'n bleser mawr gen i gyhoeddi bod Meri Huws wedi cael ei phenodi’n Is-Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ynghyd â thri ymddiriedolwr newydd. Ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth drwyadl ynglŷn â diwylliant Cymru, bydd Meri yn dod â thoreth o brofiad i'r swydd. Mae hefyd yn bleser mawr gen i gyhoeddi bod Michael Cavanagh, Quentin Howard a Carl Williams wedi cael eu penodi’n ymddiriedolwyr. Mae'r unigolion hyn yn dod o gefndiroedd gwahanol iawn a byddant yn dod â safbwyntiau newydd a gwahanol i'r bwrdd wrth i waith ddechrau ar gynllun strategol newydd ar gyfer y sefydliad. Rwy'n ddiolchgar iawn am eu parodrwydd i ymuno â'r Llyfrgell Genedlaethol a'i chefnogi drwy'r broses hon.
Dywedodd Rhodri Glyn Thomas o Lyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn croesawu penodiad Ms Meri Huws, Mr Carl Williams, Mr Quentin Howard a Mr Michael Cavanagh. Bydd y pedwar yn cynnig amrediad o brofiad ac arbenigedd gwerthfawr i'r Bwrdd, ac rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-ymddiriedolwyr yn ymuno â fi wrth ddymuno pob llwyddiant i'r pedwar ohonyn nhw wrth iddyn nhw ddechrau eu tymor yn y swydd.
Dywedodd Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Pedr ap Llwyd:
"Bydd yn fraint bod â'r unigolion profiadol a galluog hyn ar Fwrdd y Llyfrgell, yn enwedig gan ein bod yn dechrau gweithio ar gynllun strategol nesaf y sefydliad. Bydd y pedwar yn ased gwych inni wrth inni barhau i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau a'n gwaith.Rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw wrth iddyn nhw ddechrau eu tymor yn y swydd.