Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, wedi cyhoeddi heddiw [28 Hydref] fod dau aelod newydd wedi’u penodi i Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y ddau aelod newydd yw Andy Eagle ac Iwan Bala a byddant yn cychwyn yn eu swyddi ar 1 Tachwedd 2016. Penodiadau am dair blynedd i ddechrau fydd y rhain.

Mae aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru'n (dolen allanol) gyfrifol am bennu nodau ac amcanion y Cyngor a hefyd am sicrhau bod y rhain yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru.

Mae eu swyddi, sy’n rhai gwirfoddol a di-dâl, yn cynnwys sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol yn cael ei fuddsoddi’n effeithiol ar draws Cymru er budd y celfyddydau.

Dyma’r aelodau cyntaf i gael eu penodi ers i Dr Phil George ymuno â’r Cyngor fel Cadeirydd ym mis Ebrill 2016.

Cynhaliwyd proses recriwtio drylwyr er mwyn ceisio canfod chwe aelod newydd brwdfrydig, ymrwymedig a blaengar ar gyfer y Cyngor. Bydd y pedair swydd arall nad oedd modd eu llenwi yn ystod y broses benodi ddiweddar hon yn cael eu hail hysbysebu yn ystod mis Tachwedd 2016.

Wrth groesawu’r aelodau newydd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates:

“Pleser yw cyhoeddi bod Andy Eagle ac Iwan Bala wedi’u penodi’n aelodau o’r Cyngor. Mae gan y ddau gryn arbenigedd proffesiynol a phersonol ym maes y celfyddydau ac rwy’n siŵr y bydd eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn ychwanegu at gryfderau presennol y Cyngor ac yn ei gynorthwyo i wynebu’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’i flaen.”

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru,

“Rwy’n hapus iawn i groesawu dau aelod newydd y gwnaeth eu harbenigedd a’u brwdfrydedd greu argraff mor dda arnom wrth ddarllen eu ffurflenni cais ac wrth eu cyfweld. Bydd eu sgiliau arbennig a’u profiad helaeth yn ein helpu i gyflawni nod Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru sef sicrhau bod modd i holl gymunedau Cymru elwa ar gelfyddydau o safon uchel a manteisio ar gyfleoedd i’w mwynhau.

“Rydym yn edrych ymlaen at eu cyfarch fel Aelodau o'r Cyngor yn ein cyfarfod Cyngor ym mis Rhagfyr.”

Andy Eagle yw Prif Weithredwr Canolfan y Chapter yng Nghaerdydd. Mae ganddo brofiad helaeth o waith rheoli ym maes y celfyddydau yn sgil ei yrfa o dros 25 mlynedd. Mae wedi cyflawni sawl swydd allweddol ym maes llywodraeth leol ac ym maes rheoli canolfannau.

Mae Iwan Bala yn ymarferwr, yn awdur ac yn ddarlithydd uchel ei fri ym maes y celfyddydau gweledol ac mae’n arbenigwr adnabyddus ym maes y celfyddydau cyfoes yng Nghymru.