Heddiw, cyhoeddodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, bedwar penodiad newydd i Fwrdd Cyfarwyddwyr Comisiwn Dylunio Cymru.
Bydd pedwar Comisiynydd newydd, Mike Biddulph, Jon James, Cora Kwiatkowski a Joanna Rees, yn ymgymryd â’u rolau ar 1 Ebrill eleni. Bydd y penodiadau hyn yn para o 1 Ebrill 2021 tan 31 Mawrth 2025.
Sefydlwyd Comisiwn Dylunio Cymru yn 2002 gan Lywodraeth Cymru. Mae’n sefydliad cenedlaethol sy’n hyrwyddo gwaith dylunio da ar gyfer gwell adeiladau, mannau a lleoedd nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn defnyddio sgiliau tîm amlddisgyblaethol o gynllunwyr proffesiynol, dylunwyr trefol, penseiri, cynllunwyr trafnidiaeth, arbenigwyr cynaliadwyedd a pheirianwyr i ddarparu cyngor a chymorth arbenigol ar gyfer cleientiaid sy’n eu comisiynu, hyfforddiant i awdurdodau cynllunio lleol a gweithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig, canllawiau creu lleoedd a gwasanaeth Adolygu Dyluniadau strategol cenedlaethol Cymru.
Mae Comisiynwyr Comisiwn Dylunio Cymru yn Aelodau o’i Fwrdd Cyfarwyddwyr. Nid ydynt yn cael eu talu, ond cânt eu had-dalu am gostau teithio a chynhaliaeth rhesymol. Maent yn ymrwymo tua dau ddiwrnod y mis o’u hamser.
Dywedodd Julie James:
Rwy’n falch bod pedwar Comisiynydd newydd wedi’u penodi i Fwrdd Comisiwn Dylunio Cymru. Mae pob un ohonynt yn cynnig ystod eang o sgiliau newydd a phrofiad. Mae’n sicr y bydd y penodiadau hyn yn cefnogi Comisiwn Dylunio Cymru yn ei rôl bwysig i weithredu ein polisïau cynllunio cenedlaethol ar ddylunio a chreu lleoedd er mwyn sicrhau lleoedd gwell i bobl Cymru.
Dywedodd Gayna Jones, Cadeirydd Bwrdd Comisiwn Dylunio Cymru:
Mae’r Comisiwn Dylunio yn estyn croeso cynnes i’n Comisiynwyr newydd ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn cyfrannu at ein bwrdd cryf ac amrywiol. Mae ein rôl graidd o hyrwyddo gwaith dylunio o ansawdd uchel ar gyfer lleoedd rhagorol yn canolbwyntio ar helpu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i ganol trefi, dinasoedd, pentrefi a chymunedau ar hyd a lled Cymru wrth i ni adfer o COVID-19.
Rydym yn croesawu ein cydweithwyr i’n tîm ac rydym yn hyderus y byddant yn ein helpu i barhau i chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi amcan a blaenoriaethau cenedlaethol allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwell lleoedd a chartrefi da, a chynnal a datblygu economi ffyniannus ar gyfer canol ein trefi a’n dinasoedd. Mae penderfyniadau dylunio da ac ansawdd rhagorol yn hanfodol ar y trywydd tuag at sicrhau datgarboneiddio a gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd, datblygu ecosystemau cryf a gwella iechyd a lles ein cymunedau.
Dywedodd Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru:
Mae’n fraint fawr i mi weithio gyda Bwrdd medrus y Cyfarwyddwyr a’r tîm staff yma yn y Comisiwn. Bydd ein Comisiynwyr newydd yn cryfhau’r tîm hwnnw ymhellach a’n gwaith o helpu i wneud Cymru’n lle gwell. Bydd eu sgiliau a’u profiad yn ychwanegu dimensiwn newydd i Comisiwn Dylunio Cymru ac rydym yn falch iawn o’u croesawu i’r tîm.
Mae’r penodiadau’n cydymffurfio â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus. Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae’n ofynnol cyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol y sawl a benodir (os caiff gweithgarwch o’r fath ei ddatgan).
Nid oes unrhyw un o’r unigolion hyn wedi cyflawni unrhyw weithgareddau gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf nac wedi dal unrhyw benodiad Gweinidogol arall.