Mae Hannah Blythyn, y Gweinidog Amgylchedd, wedi cadarnhau pum apwyntiad newydd i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog.
Yr aelodau newydd a benodwyd yw:
- Sue Holden, Christopher Coppock a Grenville Ham - wedi'u penodi i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o 23 Awst 2018 tan 31 Mai 2022
- Elinor Gwynn a Neil Martinson - wedi'u penodi i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri o 1 Gorffennaf 2018 tan 31 Mai 2022.
- Ceri Stradling - i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri o 1 Chwefror 2018 tan 31 Mai 2022
- Gwyneth Hayward - ailbenodi i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro o 1 Chwefror 2018 i 31 Mai 2019
- Ted Sangster - ailbenodwyd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro o 1 Ebrill 2018 i 31 Mai 2019
Mae'r penodiadau hyn wedi'u gwneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.
Dywedodd Hannah Blythyn:
"Mae ein Parciau Cenedlaethol yn arbennig i bobl Cymru a'r miloedd o bobl sy'n ymweld â hwy bob blwyddyn.
Bydd y pum penodiad newydd yn dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i reoli ein Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Edrychaf ymlaen at gyfraniad parhaus yr aelodau yn eu stiwardiaeth effeithiol."
Sefydlwyd Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol o dan ddarpariaeth Deddf yr Amgylchedd 1995. Mae gan Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddau ddiben statudol dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995:
- Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol
- Hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig [y Parc] gan y cyhoedd
Mae Gorchymyn Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 yn nodi bod cyfrifoldeb dros benodi bwrdd Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn cael ei rannu rhwng yr Awdurdodau Lleol cyfansoddol a Gweinidogion Cymru. Mae Atodlen 2 o'r Gorchymyn yn nodi:
- Rhaid i Fwrdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fod yn 24 aelod, gyda'r nifer o Aelodau a benodwyd gan Awdurdodau Lleol yn 16 a'r nifer a benodwyd gan Weinidogion Cymru yn 8
- Rhaid i Fwrdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fod yn 18 Aelod, gyda'r nifer o Aelodau a benodwyd gan Awdurdodau Lleol yn 12 a'r nifer a benodir gan Weinidogion Cymru yn 6
- Rhaid i Fwrdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod yn 18 Aelod, gyda'r nifer o Aelodau a benodir gan Awdurdodau Lleol yn 12 a'r nifer a benodir gan Weinidogion Cymru yn 6
Mae Sue Holden wedi datgan nad yw wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Nid oes ganddi unrhyw Benodiadau Gweinidogol eraill ar hyn o bryd.
Mae Christopher Coppock wedi datgan nad yw wedi cyflawni unrhyw weithgaredd gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Nid oes ganddo unrhyw Benodiadau Gweinidogol eraill ar hyn o bryd.
Mae Grenville Ham wedi datgan y bu yn ymgeisydd i'r Blaid Werdd ar gyfer etholiadau Cynulliad Cymru 2016 ac Etholiad Cyffredinol 2017 ac roedd yn Llefarydd dros Blaid Werdd Cymru. Mae'n Gynghorydd Tref etholedig yn Aberhonddu. Nid oes ganddo unrhyw Benodiadau Gweinidogol eraill ar hyn o bryd.
Mae Elinor Gwynn wedi datgan nad yw wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Nid oes ganddi unrhyw Benodiadau Gweinidogol eraill ar hyn o bryd.
Mae Neil Martinson wedi datgan ei fod wedi canfasio ar ran y Blaid Lafur neu wedi helpu mewn etholiadau yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Nid oes ganddo unrhyw Benodiadau Gweinidogol eraill ar hyn o bryd.
Mae Ceri Stradling wedi datgan nad yw wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Ar hyn o bryd mae ganddo ddau Benodiad Gweinidogol arall - mae'n Ddirprwy Gadeirydd y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, ac yn aelod annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Gwyneth Hayward wedi datgan nad yw wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Nid oes ganddi unrhyw Benodiadau Gweinidogol eraill ar hyn o bryd.
Mae Ted Sangster wedi datgan nad yw wedi ymgymryd ag unrhyw weithgaredd gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Ar hyn o bryd mae ganddi Benodiad Gweinidogol arall - mae'n aelod o Fwrdd Ymgynghorol Parth Menter Dyfrffordd Aberdaugleddau.