Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, wedi cyhoeddi penodiad dau ymddiriedolwr newydd i Amgueddfa Cymru.
Mae Cai Wilshaw (ef/fe) yn ymgynghorydd cyfathrebu sy'n gweithio ar hyn o bryd yn The Economist, asiantaeth gyfathrebu The Fourth Angel, a TNW (cwmni Financial Times). Cyn hynny bu'n Bennaeth Materion Allanol ar gyfer cyhoeddiad LGBT+ mwyaf poblogaidd y byd, PinkNews, ac mae'n sylwebydd rheolaidd i BBC Cymru ar wleidyddiaeth UDA ar ôl gweithio yng Nghyngres yr UD. Yn ei rolau presennol mae ganddo ffocws penodol ar amrywiaeth a chynhwysiant, cynaliadwyedd, a sefydlu partneriaethau byd-eang arloesol.
Mae Freya Stannard yn weithiwr treftadaeth ddiwylliannol proffesiynol profiadol. Ar hyn o bryd mae'n Bennaeth Rhaglenni Cenedlaethol yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol, ac yn gyn-reolwr partneriaethau cenedlaethol yn Oriel y Tate. Mae ei gwaith yn canolbwyntio'n benodol ar adeiladu partneriaethau er mwyn ymgysylltu â chymunedau amrywiol ledled y DU ac mae ganddi brofiad o weithio'n agos gyda nifer o sefydliadau diwylliannol yng Nghymru.
Dywedodd Roger Lewis, Llywydd Amgueddfa Cymru:
"Mae'r ddau benodiad newydd yma yn pwysleisio ein huchelgais i greu bwrdd amrywiol a deinamig i Amgueddfa Cymru.
"Mae'r ddau weithwyr proffesiynol yn ymuno â bwrdd ymroddedig iawn sydd ag ystod eang o brofiad mewn ystod eang o feysydd ac angerdd dros ddiwylliant, gwyddoniaeth a'r celfyddydau.
"Bydd Freya a Cai yn helpu i dyfu ein huchelgeis ar gyfer cyfathrebu digidol ac yn cefnogi ymrwymiad y Bwrdd i gynaliadwyedd, Cymru ryngwladol, cynhyrchu incwm, ac amrywedd.
"Wrth edrych i'r dyfodol, byddwn yn parhau â'n gwaith i ddatblygu lleisiau newydd ar ein byrddau, sy'n cynrychioli pobl Cymru ymhellach."
Bydd yr aelodau sydd newydd eu penodi yn gwasanaethu telerau rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2025.
Gwnaed y penodiadau hyn yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.
Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod. Yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae'n ofynnol cyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol y rhai a benodir (os oes rhai wedi'u datgan). Nid yw Ms Stannard wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae Mr Wilshaw yn aelod o’r Blaid Lafur ac yn aelod o grŵp LGBT y Blaid Lafur. Mae wedi canfasio ar ran y Blaid Lafur yn ystod etholiadau seneddol y DU yn 2017 a 2019. Mae hefyd wedi cynnig sylwadau i Radio Cymru ar y Blaid Lafur ar brydiau. Nid yw Mr Wilshaw na Ms Stannard yn dal unrhyw benodiadau cyhoeddus gweinidogol eraill yng Nghymru.
Mae'r penodiadau am dymor cychwynnol o bedair blynedd ac nid ydynt yn cael eu talu, yn seiliedig ar ymrwymiad amser gofynnol o 12 diwrnod y flwyddyn.