Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi penodi Dianne Bevan a Katherine Watkins i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer tymor cyntaf o 1 Mehefin 2023 i 31 Mawrth 2025.
Disgrifiad o'r rôl a'r sefydliad
Mae'n ofynnol i'r Panel lunio adroddiad blynyddol, sy'n rhagnodi lefel y lwfansau a delir i aelodau o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau tref a chymuned, awdurdodau'r parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub. Gall hefyd lunio Adroddiadau Atodol ar unrhyw bryd y mae'n ystyried bod hynny'n angenrheidiol. Wrth baratoi ei adroddiadau, mae'n ofynnol i'r Panel ystyried effaith ariannol debygol ei benderfyniadau ar yr awdurdod neu'r awdurdodau o dan sylw. Mae aelodau o'r Panel hefyd yn ystyried unrhyw newidiadau a awgrymir i gyflog prif weithredwr cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, yn ôl yr angen.
Disgrifiad o'r rôl
- Cymryd rhan yng Nghyfarfodydd y Panel gan gynnwys gosod yr agenda a'r trywydd, cynhyrchu tystiolaeth, trafod a herio'n adeiladol a phennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol.
- Ymgysylltu'n fwriadol ag ystod eang o unigolion a sefydliadau ynghylch materion yn ymwneud â chydnabyddiaeth.
- Dadansoddi a dehongli gwybodaeth a defnydd effeithiol o dystiolaeth i gefnogi proses benderfynu'r Panel.
- Cyfrannu at ddatblygu polisi drwy brofiad / gwybodaeth am lywodraeth leol neu ganghennau eraill o wasanaethau cyhoeddus.
- Deall cydraddoldeb ac ymrwymo iddo, a herio arferion gwahaniaethol wrth ymgymryd â rôl yr Aelod.
Math o benodiad neu estyniad
Mae Dianne Bevan a Katherine Watkins wedi cael eu penodi'n aelodau o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer y rolau yw £282 y diwrnod.
Gwnaed y penodiad hwn yn unol â’r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.
Gweithgarwch gwleidyddol
Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn rhan o'r broses ddethol.
Nid yw Dianne Bevan na Katherine Watkins wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol o fewn y pum mlynedd diwethaf.