Neidio i'r prif gynnwy

Cytunodd Gweinidog yr Economi i benodi 3 aelod i Fwrdd (CCDG) (Gyrfa Cymru).

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Enw’r ymgeiswyr llwyddiannus a’u sefydliad 

  • Dr Kate Daubney,  Cyfarwyddwr, Ffederasiwn Gwasanaethau Gyrfaoedd Prifysgolion The Careers Group
  • Aled Jones-Griffith, Pennaeth, Coleg Menai a Coleg Meirion-Dwyfor
  • Joni Ayn Alexander, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Aelodaeth gydag Advance HE

Disgrifiad o’r rôl a’r sefydliad

Mae Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG), sy’n gweithredu o dan enw Gyrfa Cymru, yn is-gorff ym mherchnogaeth llwyr Llywodraeth Cymru sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau ar yrfaoedd yng Nghymru sy’n ddiduedd, yn ddwyieithog ac ar gyfer pob oedran.

Mae Gyrfa Cymru'n cefnogi cwsmeriaid i fod yn fwy effeithiol wrth gynllunio a rheoli eu gyrfaoedd, gan gydnabod nad yw rheoli gyrfa bellach yn golygu dewis un yrfa yn unig, ond yn hytrach ddilyn llwybr gyrfa o wahanol swyddi ar hyd eich oes. Drwy wella sgiliau a chymwyseddau rheoli gyrfa, gall cwsmeriaid drosglwyddo o un swydd i un arall yn rhwyddach, mwynhau lefel uwch o foddhad o ran gyrfa, a chwarae rhan fwy gweithgar yn yr economi.

Ym mis Ebrill 2021, lansiodd Gyrfa Cymru eu gweledigaeth bum mlynedd, ‘Dyfodol Disglair’. Mae gan ‘Dyfodol Disglair’ yr uchelgais o greu dyfodol gwell i’r holl bobl ifanc ac oedolion yng Nghymru.

Dyma rôl y bwrdd:

  • darparu arweinyddiaeth effeithiol; datblygu cyfeiriad strategol a gosod nodau heriol
  • hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus a chynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian
  • sicrhau bod gweithgareddau CCDG yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac yn effeithlon, a
  • monitro perfformiad i sicrhau bod CCDG yn ysgwyddo'i ddyletswyddau, amcanion, nodau a thargedau perfformiad statudol yn llawn.

Math o benodiad neu estyniad i benodiad 

Cytunodd Gweinidog yr Economi i benodi 3 Aelod i Fwrdd (CCDG) (Gyrfa Cymru).

3 blynedd yw hyd y swydd.

Nid yw Aelodau Bwrdd CCDG yn gyflogai i’r cwmni na Llywodraeth Cymru ac maent yn gwasanaethu yn ddi-dal ac yn wirfoddol.

Gwneir y penodiad hwn yn unol â’r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.

Gweithgareddau gwleidyddol 

Dim.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid oes gan weithgareddau gwleidyddol ddim i’w wneud â’r broses ddethol.