Mae bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru wedi penodi 11 aelod newydd, gyda'r garfan gyntaf yn dechrau yn 2024 a'r ail garfan yn dechrau yn 2025.
Enw'r ymgeiswyr llwyddiannus a sefydliad
Aelodau o fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru
Cyfnod 1 (yn dechrau Ebrill 2024):
- Abyd Quinn-Aziz
- Aaron Edwards
- Einir Hinson
- Mark Roderick
- Sarah Zahid
- Keiran Harris
Cyfnod 2 (yn dechrau Ebrill 2025):
- Edwin Mutambanengwe
- Katija Dew
- Odosamawen Igbedion
- Isobel Lloyd
- Sue Phelps
Disgrifiad o'r rôl a'r sefydliad
Mae bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyfrifol ar y cyd am sicrhau bod cyfeiriad strategol Gofal Cymdeithasol Cymru yn canolbwyntio ar nodau llesiant Cymru ac ar egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu (Cymru) 2016. Disgwylir i'r bwrdd ymlynu wrth saith egwyddor bywyd cyhoeddus Nolan a dangos gwerthoedd Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru o ran arweinyddiaeth.
Drwy'r cadeirydd, mae'r bwrdd yn atebol i'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol o ran ei berfformiad a’i lywodraethiant effeithiol drwy gynnal gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus Cymru ac annog hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled Cymru.
Math o benodiad neu estyniad
Mae bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru wedi penodi 11 aelod newydd, gyda'r garfan gyntaf yn dechrau yn 2024 a'r ail garfan yn dechrau yn 2025.
Mae Abyd Quinn-Aziz, Aaron Edwards, Einir Hinson, Mark Roderick, Sarah Zahid, Edwin Mutambanengwe, Katija Dew, Odosamawen Igbedion, Sue Phelps, Isobel Lloyd a Keiran Harris wedi'u penodi yn Aelodau o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru am eu tymor cyntaf o 4 blynedd. Cafodd y penodiadau hyn eu gwneud yn dilyn ymarfer recriwtio agored a ddechreuodd yn 2023.
Dechreuodd Abyd Quinn-Aziz, Aaron Edwards, Keiran Harris, Einir Hinson, Mark Roderick a Sarah Zahid ar 1 Ebrill 2024. Bydd Edwin Mutambanengwe, Katija Dew, Odosamawen Igbedion, Isobel Lloyd a Sue Phelps yn dechrau flwyddyn yn ddiweddarach ar 1 Ebrill 2025.
Telir tâl cydnabyddiaeth ar gyfradd o £282 y diwrnod.
Gwneir y penodiad hwn yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus.
Gweithgarwch gwleidyddol
Caiff yr holl benodiadau eu gwneud ar sail teilyngdod ac nid oes gan weithgarwch gwleidyddol unrhyw ran yn y broses ddethol.
Nid oes dim i'w ddatgan.