Neidio i'r prif gynnwy

Mae Bethan Williams Price a Karen Jones wedi'u penodi'n aelodau o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Disgrifiad o'r sefydliad

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn gyfrifol am adolygu a diffinio ffiniau ardaloedd llywodraeth leol ac etholaethau'r Senedd yng Nghymru.  O 1 Ebrill 2025 bydd yn gyfrifol am benderfynu ar y fframwaith taliadau cydnabyddiaeth ar gyfer aelodau'r prif gynghorau, cynghorwyr tref a chymuned, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau'r parciau cenedlaethol a chyd-bwyllgorau corfforedig ledled Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am gydlynu etholiadau Cymru, drwy'r Bwrdd Rheoli Etholiadol.

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn Gorff annibynnol a Noddir gan Lywodraeth Cymru, y mae ei ddyletswyddau statudol wedi'u nodi yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.

Disgrifiad o'r rôl

Goruchwylio'r gwaith o gynnal Adolygiadau Ffiniau Etholiadol Llywodraeth Leol. Bydd un Aelod yn ymgymryd â rôl Comisiynydd Arweiniol ar gyfer pob adolygiad.

  • Goruchwylio'r gwaith o gyflawni Adolygiadau Ffiniau'r Senedd.
  • Cydgysylltu'r broses o gynnal etholiadau datganoledig yng Nghymru, drwy ddarparu cyngor a chanllawiau i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol (fel rhan o'r Bwrdd Rheoli Etholiadol).
  • Sicrhau bod ymgynghori ac ymgysylltu effeithiol yn digwydd mewn perthynas â chynigion yn unol â strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu'r Comisiwn, a bod adborth yn cael ei ddefnyddio i helpu i ddysgu a gwella'n barhaus.
  • Dadansoddi a dehongli gwybodaeth a gwneud defnydd effeithiol o dystiolaeth i gefnogi penderfyniadau'r panel ar draws holl swyddogaethau'r Comisiwn.
  • Pennu lefel y taliadau i aelodau etholedig a chyfetholedig Cynghorau Unedol, Cynghorau Tref a Chymuned, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub (o 1 Ebrill 2025).

Math o benodiad neu estyniad

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi penodi Bethan Williams Price am dymor cyntaf rhwng 15 Hydref 2024 a 14 Hydref 2028, a Karen Jones am dymor cyntaf rhwng 1 Rhagfyr 2024 a 30 Tachwedd 2028, i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Y tâl cydnabyddiaeth ar gyfer y rôl hon yw £282 am ddiwrnod llawn, £141 am hanner diwrnod.

Gwneir y penodiad hwn yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus.

Gweithgarwch gwleidyddol

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod, ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn rhan o’r broses ddethol.

Nid yw Bethan Williams Price na Karen Jones wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol o fewn y pum mlynedd diwethaf.