Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi cyhoeddi bod Clare Jones wedi’i phenodi i Gyngor y Gweithlu Addysg (y Cyngor).
Ffurfiwyd y Cyngor ym mis Ebrill 2015, yn sgil cyflwyno Deddf Addysg (Cymru) 2014. Mae'n gyfrifol am:
- lunio a chynnal Cofrestr o athrawon ysgol, athrawon Addysg Bellach, staff cymorth dysgu mewn ysgolion ac Addysg Bellach, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
- adolygu a diwygio'r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
- ymchwilio i achosion yn ymwneud â chymhwyster personau cofrestredig i ymarfer a gwrando'r achosion hynny
- ar gais, cynnig cyngor i Weinidogion Cymru ac eraill ar amrywiaeth o faterion proffesiynol gan gynnwys safonau ymddygiad ac ymarfer; rolau proffesiynol a statws; hyfforddi, datblygu gyrfa a rheoli perfformiad; recriwtio, cadw a chyflenwi ymarferwyr addysg cofrestredig
- achredu cyrsiau neu raglenni addysg gychwynnol i athrawon
- monitro i ba raddau y mae cyrsiau neu raglenni achrededig addysg gychwynnol i athrawon yn cydymffurfio â'r meini prawf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
- tynnu achrediad cyrsiau neu raglenni addysg gychwynnol i athrawon yn ôl.
Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014 yn darparu bod aelodaeth o'r Cyngor yn cynnwys nid llai na 14 o aelodau. Bydd saith aelod yn cael eu penodi'n uniongyrchol gan Weinidogion Cymru a bydd saith aelod arall yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru wedi iddynt gael eu henwebu gan sefydliadau a restrir yn yr Atodlen i Reoliadau 2014.
Ni thelir aelodau’r Cyngor, ond maent yn cael eu had-dalu am gostau teithio a chynhaliaeth rhesymol. Eu hymrwymiad amser yw 10-12 diwrnod y flwyddyn.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
“Rwy’n falch bod Mrs Jones wedi cytuno i weithio ar Gyngor y Gweithlu Addysg; rwy’n siŵr y bydd hi'n dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i'w rôl fel aelod o'r Cyngor.“
Gwnaed y penodiadau hyn yn unol â’r Cod Llywodraethiant ar Benodiadau Cyhoeddus.
Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae’n ofynnol cyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol y sawl a benodir (os caiff gweithgarwch o’r fath ei ddatgan).
Roedd yr unigolyn hwn yn cyflawni gweithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn ymwneud â chanfasio ar ran y Blaid Lafur.