Neidio i'r prif gynnwy

Cadarnhawyd mai’r Prif Swyddog Nyrsio newydd ar gyfer Cymru yw Sue Tranka, a fydd yn ymuno â Llywodraeth Cymru yn ystod haf 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw penodiad Sue yn dilyn ymddeoliad Dr Jean White a oedd yn Brif Swyddog Nyrsio am ddeng mlynedd.

Ar hyn o bryd, Sue yw’r Dirprwy Brif Swyddog Nyrsio ar gyfer Diogelwch Cleifion ac Arloesi yn GIG Lloegr a Gwella’r GIG. Hi fydd y Prif Swyddog Nyrsio cyntaf o gefndir Du ac Ethnig Lleiafrifol yn y DU.

Mae gan Sue dros 29 mlynedd o brofiad ym maes nyrsio ac mae wedi treulio’r 22 mlynedd diwethaf yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda’i gyrfa’n cynnwys swyddi gweithredol ac arweiniad clinigol. Wedi hyfforddi fel bydwraig, ac yn nyrs gyffredinol, iechyd meddwl a chymunedol gofrestredig, mae gan Sue brofiad helaeth yn rhyngwladol a daw â chyfoeth o brofiad mewn nyrsio gofal critigol o bob rhan o’r byd.

Ar ôl ei phenodi, dywedodd Sue:

Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael derbyn swydd Prif Swyddog Nyrsio Cymru. Rwy’n teimlo’n gyffrous i gael ymuno â’r tîm yng Nghymru wrth inni edrych tua’r dyfodol ac adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn y flwyddyn ddiwethaf.

Ni fu cefnogaeth barhaus ar gyfer cydweithwyr nyrsio a bydwreigiaeth erioed mor bwysig ag yr ydyw nawr, ac rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r timau, gwrando arnyn nhw a siarad gyda nhw wrth inni fyfyrio ar yr ymateb aruthrol gan y gweithlu i’r bygythiad iechyd byd-eang hwn sydd heb ei debyg.

Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru, Andrew Goodall:

Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Sue yn ei swydd newydd a’i chefnogi wrth iddi arwain y proffesiwn nyrsio yng Nghymru. Mae Sue yn ymuno â ni yn dilyn un o’r heriau mwyaf sydd wedi wynebu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol erioed ac ar adeg pan mae angen inni ailgodi’r GIG yn dilyn yr ymateb i’r pandemig. Bydd gwybodaeth helaeth Sue yn helpu i gefnogi’r timau nyrsio a bydwreigiaeth ar draws Cymru wrth inni edrych tua’r dyfodol.