Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi cyhoeddi penodiad Prif Weithredwr cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru a phum aelod anweithredol o'r bwrdd heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlwyd Awdurdod Cyllid Cymru i gasglu a rheoli'r trethi sydd wedi'u datganoli i Gymru o fis Ebrill 2018 ymlaen. Bydd yn endid cyfreithiol o'r mis nesaf ymlaen, pan fydd y bwrdd yn cyfarfod am y tro cyntaf.

Yn dilyn cyfweliad, penodwyd Dyfed Alsop fel Prif Weithredwr cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru hyd at fis Awst 2019.

Penodwyd y canlynol i fwrdd yr Awdurdod:

  • David Jones
  • Lakshmi Narain
  • Jocelyn Davies
  • Dyfed Edwards
  • Martin Warren

Yn gynharach eleni, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cyllid mai Kathryn Bishop fydd Cadeirydd cyntaf yr Awdurdod.

Awdurdod Cyllid Cymru fydd yr adran anweinidogol gyntaf i'w sefydlu gan Lywodraeth Cymru, ac fe fydd yn dod yn weithredol ym mis Ebrill 2018. Dros y pedair blynedd nesaf, bydd yr Awdurdod yn casglu dros £1bn o refeniw trethi.

Ceir rhagor o wybodaeth am swyddogaeth yr Awdurdod ar ei wefan newydd: llyw.cymru/acc

Wrth gadarnhau'r penodiadau, dywedodd yr Athro Drakeford:

“O fis Ebrill nesaf ymlaen, bydd Cymru'n gyfrifol am gasglu a rheoli ein trethi ein hunain wrth i'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi gael eu cyflwyno.

"Mae tipyn o waith wedi'i wneud i baratoi ar gyfer datganoli pwerau treth a sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru.

"Rwy'n falch iawn o gadarnhau penodiad Dyfed Alsop fel Prif Weithredwr cyntaf yr Awdurdod, a phump o aelodau newydd i'r bwrdd, a fydd yn ysgwyddo'r dasg bwysig o oruchwylio'i waith. Mae Dyfed a phob un o aelodau'r bwrdd yn cynnig cyfoeth o brofiad, a gyda'i gilydd byddant yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau fod y pwerau treth yn cael eu trosglwyddo'n ddidrafferth."

Gan groesawu cyhoeddiad heddiw, dywedodd Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, Kathryn Bishop:

"Wrth ffurfio Awdurdod Cyllid Cymru, bydd Cymru'n cymryd cam mawr ymlaen yn y broses ddatganoli, gyda'r cyfrifoldeb dros gynhyrchu refeniw yn ogystal â gwariant cyhoeddus. Bydd y refeniw treth y byddwn yn ei gasglu gan adeiladwyr tai a gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu darparu ledled Cymru.

“Byddwn yn gweithredu polisi trethi Gweinidogion Cymru ac yn dilyn y cyfeiriad strategol a osodir ganddynt; ond yn gweithredu’n annibynnol. Byddwn yn sefydliad sy'n cadw at ein gair - gobeithio y bydd trethdalwyr a dinasyddion Cymru'n gweld bod ein gwasanaethau'n effeithlon ac yn hawdd eu defnyddio."