Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi cymeradwyo penodi Mick Antoniw AC yn brif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hyn yn dilyn argymhelliad Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a chymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mawrth 21 Mehefin.

Mae’r Cwnsler Cyffredinol yn darparu cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru a’i chynrychioli mewn achosion cyfreithiol

Mae'r cyfrifoldebau eraill yn cynnwys:

  • ymateb i gynigion neu ymgynghoriadau sy’n effeithio ar faterion cyfreithiol yng Nghymru
  • darparu cyngor ar ddatblygu polisi Llywodraeth Cymru ar faterion cyfreithiol
  • cyflwyno, amddiffyn neu ymddangos mewn achosion cyfreithiol
  • cyfeirio darpariaeth mewn Bil Cynulliad, gan gynnwys Bil Llywodraeth Cymru, i’r Goruchaf Lys.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Fel prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn gweithio i gynnal trefn y gyfraith yng Nghymru.

"Rwy’n falch iawn o groesawu Mick i dîm y Llywodraeth. Mae hon yn swydd hanfodol bwysig, yn enwedig wrth inni ddechrau ar dymor pum mlynedd newydd gyda chorff cynyddol o gyfreithiau yng Nghymru sy'n ategu ein huchelgais i gyflawni ein hymrwymiadau i bobl Cymru."

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Mick Antoniw AC:

“Mae’n fraint cael fy mhenodi’n Gwnsler Cyffredinol Cymru yn ystod y cyfnod cyffrous hwn o newid.

“Mae hwn yn gyfnod allweddol yn hanes Cymru wrth inni barhau i deithio ar hyd llwybr datganoli a cheisio sicrhau Bil Cymru sy’n addas i’n dibenion er mwyn cyflawni ar gyfer pobl Cymru.

“Mae llawer o waith pwysig i’w wneud mewn amser byr ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gychwyn ar fy rôl newydd.”