Mark Polin yw Prif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd ar hyn o bryd, ac mae ganddo 14 blynedd o brofiad gweithredol mewn nifer o swyddi heriol.
Mark Polin yw Prif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd ar hyn o bryd, ac mae ganddo 14 blynedd o brofiad gweithredol mewn nifer o swyddi heriol.
Bydd yn ymddeol o’i swydd bresennol ym mis Gorffennaf ac yn ymgymryd â swydd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd ym mis Medi.
Wrth siarad yn y Senedd y prynhawn yma, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd:
“Rwy’n falch o gyhoeddi bod Mark Polin wedi’i benodi’n Gadeirydd y Bwrdd Iechyd. Bydd yn dod â chyfoeth o brofiad i’r swydd - mae wedi gweithio fel arweinydd yn y sector cyhoeddus ac mae ganddo brofiad o lywodraethiant. Yn rhinwedd ei swydd fel Prif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd, mae’n adnabod cymunedau’r Gogledd yn dda ac yn ymroddedig iddynt. Bydd yn gallu helpu i arwain y Bwrdd Iechyd drwy’r cam allweddol nesaf yn y broses wella.”
Dywedodd Mark Polin:
“Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â holl aelodau’r Bwrdd, gan gynnwys y tîm gweithredol, i wella iechyd a lles pobl ar draws y Gogledd ac i ddatblygu llwybr clir i dywys y Bwrdd allan o’r mesurau arbennig.
“Roedd y gwaith ymchwil a wnes i cyn cael fy newis yn dangos maint yr her rydym yn ei hwynebu, ond rwy’n hyderus y bydd modd sicrhau’r gwelliannau angenrheidiol - a hynny drwy gael cyfeiriad clir, arweinyddiaeth, cydymdrech, a llywodraethiant da - ar y cyd â’r cymorth a’r craffu sy’n parhau i gael eu darparu gan Lywodraeth Cymru. Fy ngobaith yw y bydd fy mhrofiad yn y sector cyhoeddus, fy adnabyddiaeth o gymunedau’r Gogledd a’m hymroddiad iddynt, ynghyd â’r berthynas sydd gennyf yn barod â’r sefydliadau sy’n bartneriaid inni, yn ein helpu i gyd i symud ymlaen gyda’n gilydd.”
Yng ngwasanaeth yr heddlu y mae Mark Polin wedi gweithio’n bennaf ac mae’n arwain Heddlu’r Gogledd ers bron naw mlynedd. Bu’n gweithio mewn nifer o heddluoedd eraill ac mae ganddo hanes o lwyddiant mewn arweinyddiaeth a gwella perfformiad, rheoli risg a chynnal enw da – a hynny yng nghyd-destun datblygu sefydliadol a newid diwylliannol.