Mae Gweithgor Tirweddau'r Dyfodol o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi cyhoeddi adolygiad o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru.
Mae Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, a sefydlwyd ym mis Mehefin 2014, yn rhoi cefnogaeth i ddatblygu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ac i’w roi ar waith. Mae ganddo rôl allweddol yn sicrhau bod cysylltiad cydnabyddedig rhwng Llywodraeth Cymru, ceidwaid da byw, perchnogion anifeiliaid eraill a chynrychiolwyr y diwydiant sy’n ymwneud ag ystod eang o faterion iechyd a lles anifeiliaid.
Dywedodd Lesley Griffiths:
“Pleser i mi yw croesawu Abi a Paula i’r Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid. Bydd y ddwy ohonynt yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’r Grŵp ac rwy’n edrych ymlaen at gael cydweithio â’r ddwy ar faterion iechyd a lles anifeiliaid.”
Gwnaed y penodiadau yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd ar Benodiadau gan Weinidogion.
Bydd y penodiadau yn dechrau ar 1 Mehefin 2017 hyd 31 Mai 2020.