Mae Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (IEPAW) yn falch o gyhoeddi bod dau Ddirprwy Asesydd Interim wedi ymuno â’r tîm ar 1 Mai 2024.
Bydd y dirprwyon yn gyfrifol am roi trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim ar waith yng Nghymru. Byddant yn cefnogi'r Asesydd Interim i fwrw golwg dros sylwadau a gyflwynir gan y cyhoedd a'u blaenoriaethu yn ôl difrifoldeb a faint o frys sydd yn eu cylch. Byddant hefyd yn paratoi asesiadau am sut y mae'r gyfraith yn cael ei gweithredu pan fo materion amgylcheddol difrifol yn codi.
Rôl y mesurau interim hyn yw cadw golwg effeithiol ar sut y mae cyfraith amgylcheddol yn cael ei gweithredu yng Nghymru tra bo trefniadau statudol newydd yn cael eu rhoi ar waith ar waith ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Mae Lynda Warren wedi bod yn gweithio ym maes cyfraith a pholisi amgylcheddol ers dros 30 mlynedd a bydd yn ymuno ag IEPAW fel un o’r Dirprwy Aseswyr Interim. Bu’n aelod o sawl pwyllgor llywodraeth y DU gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur y bu’n Ddirprwy Gadeirydd arno. Mae ganddi gymwysterau ôl-raddedig mewn bioleg a’r gyfraith ac mae wedi gweithio yn y byd academaidd ers dros 40 mlynedd, yn fwyaf diweddar fel Athro Cyfraith Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor lle mae’n dysgu cyfraith parthau arfordirol yn rheolaidd. Dyfarnwyd OBE iddi yn 2017 am wasanaethau amddiffyn yr amgylchedd yn y DU a thramor ac mae'n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae Anna Heslop yn ymgyfreithiwr cyfraith gyhoeddus ac amgylcheddol profiadol a fydd yn ymuno ag IEPAW fel un o'r Dirprwy Aseswyr Interim. Mae wedi gweithio yn y Comisiwn Ewropeaidd, yn cynghori cyrff cyhoeddus yn y DU ar weithredu cyfraith amgylcheddol a chynllunio. Hefyd, mae wedi gweithio i nifer o gyrff anllywodraethol amgylcheddol, gan gynnwys amser yn ClientEarth, lle bu’n arwain tîm rhyngwladol sy’n arbenigo mewn camau cyfreithiol yn ymwneud â’r amgylchedd naturiol ar lefelau cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol a lle bu’n weithgar wrth gyflwyno ymgyfreitha arloesol ar ansawdd aer. A hithau wedi’i magu ar Ynys Môn, mae Anna bellach wedi’i lleoli ym Mrwsel, Gwlad Belg.