Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod Dr. Colette Bridgman MBE wedi cael ei phenodi yn Brif Swyddog Deintyddol newydd i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Dr. Bridgman wedi gweithio fel Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus yng Ngogledd-orllewin Lloegr ers 2003, ac fel arweinydd deintyddol strategol ym Manceinion Fwyaf ers 2013. Yn ogystal â’r swyddi uchod, mae hi hefyd wedi dal swyddi yn Iechyd Cyhoeddus Lloegr ac fel y Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol ar gyfer GIG Lloegr. 

Mae’n cymryd yr awenau wedi i David Thomas ymddeol o’r swydd yn gynharach eleni.

Bydd dyddiad dechrau Dr. Bridgman yn y swydd yn cael ei gadarnhau cyn hir.

Mae’r Brif Swyddog Deintyddol yn gyfrifol am ddarparu cyngor proffesiynol annibynnol am wasanaethau deintyddol a materion iechyd y geg yng Nghymru.

Wrth wneud y cyhoeddiad am benodi Dr. Bridgman, dywedodd Dr. Chris Jones, Prif Swyddog Meddygol Dros Dro Cymru:

“Dw i’n falch iawn o gadarnhau bod Dr. Colette Bridgman MBE wedi cael ei phenodi yn Brif Swyddog Deintyddol Cymru.

“Bydd ei phenodiad yn dod â phersbectif newydd ar gyfer datblygu gwasanaethau gofal sylfaenol rhagorol a chynaliadwy yng Nghymru, yn arbennig o ran cynnig arweinyddiaeth ym maes iechyd y geg a gwella gwasanaethau deintyddol.”

Dywedodd Dr. Colette Bridgman MBE:

“‘Dw i wrth fy modd o gael fy mhenodi yn Brif Swyddog Deintyddol Cymru. Hoffwn i adeiladu ar y llwyddiannau hyd yma a dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r timau talentog yng Nghymru.

“Mae’n fraint imi gael y cyfle hwn i ymateb i’r heriau sy’n ein hwynebu ac i arwain yr ymdrechion i wella iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol fel rhan o’r ymateb integredig i sicrhau Cymru iachach.”