Neidio i'r prif gynnwy

Mae Yasmin Khan a Nazir Afzal wedi cael eu penodi fel dau Gynghorydd Cenedlaethol newydd ar Drais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Byddant yn dechrau ar eu gwaith ar 22 Ionawr, gan rannu swydd. Bydd y ddau yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y ffordd fwyaf effeithiol o weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Byddant hefyd yn gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr a phartneriaid eraill i wella'r ffordd o gynllunio, comisiynu, a darparu gwasanaethau.

Nazir Afzal OBE oedd Prif Erlynydd y Goron yng Ngogledd-orllewin ac yn fwy diweddar, bu'n Brif Weithredwr Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Yn ystod ei yrfa dros 24 mlynedd, bu'n erlyn rhai o'r achosion uchaf eu proffil yn y wlad, ac yn cynghori ar nifer o achosion eraill. Bu'n arwain polisi Cymru a Lloegr ar nifer o bynciau cyfreithiol, gan gynnwys trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin plant yn rhywiol a thrais ar sail anrhydedd.

Yasmin Khan yw sylfaenydd yr Halo Project, elusen sy'n helpu pobl sydd wedi dioddef priodas dan orfod a thrais ar sail anrhydedd. Mae Yasmin wedi bod yn gweithio gyda chymunedau, a menywod yn arbennig, i roi sylw i anghydraddoldebau ym maes cyflogaeth, addysg a hyfforddiant.

Dywedodd Arweinydd y Tŷ, Julie James:

“Mae Yasmin Khan a Nazir Afzal yn cynnig cyfoeth o brofiad a gwybodaeth i'r swydd, ac yn mynd i roi arweiniad gwerthfawr wrth i ni adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud dan y Ddeddf arloesol hon. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio gyda'r ddau wrth i ni herio pob math o drais domestig, rhywiol ac ar sail rhywedd."



Dywedodd Yasmin Khan:

"Mae penodi Cynghorydd Cenedlaethol yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i herio a chael gwared â phob math o drais yn erbyn menywod a phob math o drais ar sail rhywedd. Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi, ac yn edrych ymlaen at gyfarfod partneriaid, cymunedau a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod Cymru'n lle diogel i fenywod a merched fyw, ffynnu a theimlo'n ddiogel."



Dywedodd Nazir Afzal:

"Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi i'r swydd bwysig hon a fydd yn helpu i weithredu'r Ddeddf arloesol. Rwy'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i herio pob math o drais yn erbyn menywod a thrais domestig, rhywiol ac ar sail rhywedd. Rydw i am helpu i sicrhau bod Cymru'n arwain y byd wrth gael gwared â'r troseddau hyn, gan ddod yn un o'r mannau mwyaf diogel yn y byd i fenywod."