Neidio i'r prif gynnwy

Mae Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi croesawu penodiad dau gomisiynydd newydd i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae EM y Frenhines wedi penodi Timothy Darvill OBE a Sarah Perons i wasanaethu fel aelodau o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, am dymor o bum mlynedd i ddechrau, o 1 Mehefin 2021.

Mae'r Athro Darvill a Ms Perons yn ymuno â saith Comisiynydd ar y bwrdd presennol sy'n goruchwylio gwaith CBHC, y corff sydd wedi'i leoli yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac sy’n ymroddedig i gofnodi a dehongli treftadaeth archeolegol a phensaernïol Cymru.

Penodir aelodau’r bwrdd am eu harbenigedd mewn maes sy’n berthnasol i waith y Comisiwn.

Bydd Ms Perons, sy’n gweithio i Esgobaeth Llandaf fel Swyddog Datblygu Eglwysi, yn arwain prosiect y Comisiwn i gofnodi manylion mannau o addoliad yng Nghymru, sydd wrthi’n cau mor gyflym.

Bydd yr Athro Darvill, awdur y llyfr diweddar Historic Landscapes and Mental Well-being yn arwain gwaith y Comisiwn i gefnogi polisïau Llywodraeth Cymru ar ddiwylliant, iechyd a dysgu.  Ac yntau’n adnabyddus am olrhain tarddiad cerrig gleision y Preseli a’u taith i Gôr y Cewri, mae ganddo wybodaeth eang am archeoleg Cymru.

Mawr yw croeso’r Athro Nancy Edwards, cadeirydd y Comisiwn, i’r ddau benodiad. Dywedodd:

"Bydd profiadau Sarah a Tim yn gyfraniad gwerthfawr i’n gwaith hanfodol o helpu pobl i archwilio a mwynhau amgylchedd hanesyddol cyfoethog ac amrywiol Cymru.  Rwy’n disgwyl ymlaen at eu gweld yn chwarae rhan lawn yn ein helpu i bennu cyfeiriad strategol y Comisiwn ac yn cyfrannu at ein gwaith wrth inni wynebu heriau’r dyfodol.

Dywedodd Christopher Catling, Prif Weithredwr y Comisiwn Brenhinol:

"Mae’r Athro Darvill a Sarah Perons yn ymuno â ni ar adeg cyffrous yn hanes y Comisiwn Brenhinol wrth i ni aros am ganlyniad ein cais am statws Treftadaeth y Byd i Ddiwydiant Llechi’r Gogledd, cynnal ymchwil arloesol i effeithiau newid hinsawdd ar archeoleg arfordir Cymru, gweithio gyda phobl ifanc i ymchwilio i syniadau cyfoes am dreftadaeth a pharhau â’n prosiect o gofnodi ysgolion, swyddfeydd a mannau addoli’r 20fed ganrif yng Nghymru.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

“Hoffwn longyfarch yr Athro Darvill a Sarah Perons ar eu penodiad wrth iddyn nhw ymuno â grŵp o gomisiynwyr arbenigol ac ymrwymedig a staff ymroddedig a hynod alluog.  Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw a’r Comisiwn Brenhinol gyda’u gwaith gwerthfawr o ddiogelu amgylchedd hanesyddol cyfoethog ac amrywiol Cymru.