Gwnaed penderfyniad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i benodi 2 aelod Annibynnol newydd am gyfnod o 4 blynedd.
Gwnaed penderfyniad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i benodi 2 aelod Annibynnol newydd am gyfnod o 4 blynedd.
Dyma Benodiadau Cyhoeddus Tymor Cyntaf.
Yr aelodau newydd yw Jayne Sadgrove a Donna Macarthur.
Bydd penodiad Donna Macarthur yn para o 24 Ebrill 2023 tan 23 Ebrill 2027 a bydd penodiad Jayne Sadgrove yn para o 1 Medi 2023 tan 31 Awst 2027.
Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) fel Awdurdod Iechyd Arbennig ym mis Hydref 2018. AaGIC yw'r corff strategol ar gyfer gweithlu GIG Cymru.
Gwnaed yr holl benodiadau yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus (ar Gov.UK) a hysbyswyd y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.
Gwnaed pob penodiad ar sail teilyngdod yn dilyn proses agored, gystadleuol. Nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol.
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, nid oes unrhyw un o’r rhai a benodwyd wedi cael eu cyflogi gan blaid wleidyddol, wedi dal swydd arwyddocaol mewn plaid, wedi sefyll fel ymgeisydd dros blaid mewn etholiad, wedi siarad yn gyhoeddus ar ran plaid wleidyddol, nac wedi darparu rhoddion neu fenthyciadau arwyddocaol i blaid.