Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi penodiad dau Aelod Annibynnol i’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Penodwyd Sarah Finnegan-Dehn o 1 Hydref 2019 a bydd Meri Huws yn cael ei phenodi o 01 Ebrill 2020.

Y Cynghorau Iechyd Cymuned sy’n lleisio barn y cyhoedd ac yn rhoi gwybod i’r gwasanaethau iechyd beth yr hoffai pobl ei weld a sut y gellir gwella pethau. 

Mae saith o Gynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru. Mae Bwrdd y Cynghorau yn cynrychioli llais cleifon a’r cyhoedd ar lefel genedlaethol. Mae’n pennu’r safonau cenedlaethol y mae’n rhaid i’r Cynghorau eu bodloni; mae’n darapru cyngor, canllawiau a chymorth, ac mae hefyd yn monitro ac yn rheoli eu perfformiad. 

Dywedodd Mr Gething:

Rwy’n falch iawn o gyhoeddi penodiad Sarah a Meri yn Aelodau Annibynnol o’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned. Bydd eu gwybodaeth a’u profiad yn eu helpu i wneud cyfraniad pwysig er mwyn sicrhau bod cleifon yn cael llais yn y ffordd y mae ein gwasanaeth iechyd yn cael ei redeg. Rwy’n dymuno’n dda iddynt yn eu rolau newydd.