Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth a Gweinidog y Gogledd, Ken Skates, wedi cyhoeddi bod cynllun coridor Sir y Fflint wedi symud ymlaen eto yn sgil penodi cynghorwyr technegol.
Bydd Corderoy, gyda chymorth Capita, yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i reoli'r gwaith o gyflawni Coridor Sir y Fflint yr A55/A494/A548. Bydd eu cymorth yn cynnwys darparu cyngor masnachol, amgylcheddol, technegol a hefyd gyngor ar gaffael.
Byddant yn paratoi strategaeth gaffael dros yr haf er mwyn cyflawni cam nesaf y cynllun. Golyga hyn y bydd modd caffael ymgynghorwyr dylunio yn yr Hydref. Bydd dyluniad cychwynnol yn cael ei baratoi a fydd yn destun ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid. Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried materion amgylcheddol a materion peirianyddol.
Meddai Ken Skates:
"Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw fod y gwaith o ddatblygu Coridor Sir y Fflint wedi symud gam ymhellach yn sgil penodi'r cynghorwyr technegol Corderoy.
"Dyma gynllun sy'n gwbl hollbwysig i Ogledd Cymru. Bydd yn lleihau tagfeydd yn yr ardal, yn gwella mynediad i Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, ac yn galluogi'r economi i dyfu a ffynnu. Mae cyhoeddiad heddiw yn tystio i'r ffaith bod y cynllun yn parhau i symud ymlaen ac rwy'n edrych ymlaen at weld y datblygiadau eraill wrth i'r ymgynghorwyr dylunio gael eu penodi yn nes ymlaen eleni.
"Mae'r 'Llwybr Coch' yn ddatblygiad enfawr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a'i nod fydd diogelu economi'r rhanbarth. Mae cyhoeddiad heddiw yn cadarnhau ein hymrwymiad i'r cynllun ac yn tystio i'n nod o wella'r seilwaith trafnidiaeth ar draws y rhanbarth.
Gallai'r gwaith adeiladu ddechrau erbyn diwedd 2022 / dechrau 2023, yn amodol ar gwblhau'r broses statudol. Disgwylir i'r broses hon gynnwys ymchwiliad lleol cyhoeddus.