Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn proses recriwtio allanol, penodwyd John Coyne fel ein Cyfarwyddwr Caffael Masnachol newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dechreuodd ar 6 Medi, gan adrodd i Andrew Slade (Cyfarwyddwr Cyffredinol – Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol).

Mae gan John brofiad enfawr yn y sector preifat a chyhoeddus. Yn fwyaf diweddar ef oedd Rheolwr Gyfarwyddwr SWFT Clinical Services Limited. Dechreuodd ei yrfa yn sector twristiaeth Iwerddon a daeth yn Gyfarwyddwr Masnachol cyntaf erioed clwb pêl-droed Lerpwl. Ers hynny, mae John wedi gweithio'n helaeth yn y sector iechyd ac wedi gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gyda Chwaraeon Cymru.

Bydd Marcella Maxwell, sydd wedi bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr dros dro, yn gadael y swydd ar 10 Medi ar ôl dros 18 mis yn y rôl. Hoffem ddiolch i Marcella am ei chefnogaeth yn ystod y cyfnod interim hwn.