Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan Gymru Gomisiynydd Traffig amser llawn, ar ôl i Ken Skates, yr Ysgrifennydd dros yr Economi a’r Seilwaith, gadarnhau yr wythnos hon fod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer y swydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ôl i’r Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru ddod i gytundeb , bydd Nick Jones, a fu’n Gomisiynydd rhan amser hyd yma, yn dechrau ar ei swydd amser llawn ar 1 Hydref 2016.

Dywedodd yr Ysgrifennydd:

“Ers imi gael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Cabinet, mae wedi dod i’r amlwg yn y trafodaethau rhyngof i a’r awdurdodau lleol, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru ac eraill, fod gwir awydd i weld Comisiynydd Traffig Cymru yn cael mwy o amser i gyflawni ei swydd.

“Dw i’n hynod falch ein bod wedi gallu symud yn gyflym i wireddu hynny. Drwy gael Comisiynydd amser llawn yma yng Nghymru ac, yn y man, staff cymorth dwyieithog yng Nghymru yn lle Birmingham, bydd modd meithrin mwy o gysylltiadau, a fydd hefyd yn gysylltiadau mwy effeithiol, gyda’r rheini sy’n darparu ac yn cynnal ein rhwydweithiau trafnidiaeth yma yng Nghymru.

“Mae gwelliannau i seilwaith ledled Cymru, yn ogystal â’n prosiectau ar yr M4 yng nghyffiniau Casnewydd a’r cynigion ar gyfer y Metro, yn gyfle cyffrous i fynd i’r afael â rhai o’n hanawsterau traffig a seilwaith mwyaf hirdymor. Dw i’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Nick Jones ac eraill i ddarparu’r system drafnidiaeth effeithlon, integredig, a pharod at y dyfodol sydd ei hangen ar Gymru ac y mae’n ei disgwyl.”

Gan groesawu ei benodiad, dywedodd Nick Jones: 

“Dw i’n falch iawn o gael bod yn Gomisiynydd Traffig amser llawn cyntaf Cymru. Dw i’n edrych ’mlaen at weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol, a rhanddeiliaid eraill i addysgu, cynghori a chefnogi’r diwydiannau lorïau, bysiau a choetsis.”

Dywedodd Margaret Everson, Cyfarwyddwr Defnyddwyr Bysiau Cymru, sy’n cynrychioli pobl sy’n teithio ar fysiau yng Nghymru:

“Mae Defnyddwyr Bysiau Cymru yn croesawu’r ffaith fod swydd Comisiynydd Traffig Cymru yn un amser llawn bellach, ac mae’n edrych ’mlaen at barhau i weithio gyda Nick Jones i fonitro perfformiad cwmnïau bysiau, gan ddefnyddio’n tri Swyddog Cydymffurfiaeth Bysiau amser llawn.”