Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi penodi Cadeiryddion newydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Ann Lloyd CBE ei phenodi'n Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Bydd yn cymryd lle David Jenkins, a bydd yn dechrau ar ei chyfnod pedair blynedd fel Cadeirydd yn ystod mis Mehefin 2017.   

Cafodd Jan Williams OBE ei phenodi'n Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd yn cymryd lle'r Athro Syr Mansel Aylward, a bydd yn dechrau ar ei chyfnod pedair blynedd fel Cadeirydd ar 5 Medi 2017. 

Cafodd yr Athro Marcus Longley ei benodi'n Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.  Bydd yn cymryd lle'r Dr Chris Jones, a bydd yn dechrau ar ei gyfnod pedair blynedd fel Cadeirydd ar 1 Hydref 2017. 

Dywedodd Vaughan Gething: 

“Mae'n bleser gen i benodi Ann Lloyd, Jan Williams a Marcus Longley i'w rolau newydd. 

“Mae'r gwaith o benodi Cadeiryddion yn bwysig iawn imi. Maen nhw'n cael eu dethol am eu sgiliau a'u profiad, ac am y cyfraniad y maen nhw'n gallu ei wneud i waith y bwrdd iechyd.  

"Dw i'n hyderus bod ganddyn nhw'r sgiliau y mae eu hangen i ymgymryd â'r rolau heriol hyn, a dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i weithredu rhaglen uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer creu Cymru iach ac egnïol.” 

Cafodd y penodiadau eu gwneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid oes gan weithgarwch gwleidyddol unrhyw ran yn y broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyn i'r sawl a gaiff ei benodi ddatgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol, ac os yw'n datgan ei fod wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol mae'n ofynnol ei gyhoeddi. Ni oes unrhyw weithgarwch gwleidyddol wedi ei ddatgan.