Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cadeirydd newydd wedi’i benodi i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru am gyfnod o bedair blynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dewiswyd Colin Dennis gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fel yr ymgeisydd a ffefrir yn dilyn cystadleuaeth agored a theg a bydd yn ymgymryd â’r rôl o 1 Hydref 2022 ymlaen, yn amodol ar y gwiriadau diogelwch cyn cyflogi perthnasol.

Bydd profiad helaeth Mr Dennis o weithio gyda’r GIG yn Lloegr yn ogystal â’i brofiad o sefydlu ac arwain Byrddau yn hanfodol i’w rôl newydd fel Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth.

Mynychodd Mr Dennis Wrandawiad Cyn Penodi a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 29 Mehefin 2022. Daeth adroddiad y Pwyllgor i’r casgliad “Yn seiliedig ar ei berfformiad a’i ymatebion i gwestiynau yn y gwrandawiad cyn penodi, credwn fod Colin Dennis, yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, yn addas ar gyfer ei benodi i’r swydd Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru”.

Telir £43,326 y flwyddyn am y rôl hon, yn seiliedig ar 14.5 diwrnod y mis.

Mae’r penodiad wedi’i wneud yn unol â’r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus. Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyniad i weithgarwch gwleidyddol y sawl a benodir (os oes unrhyw weithgarwch o’r fath wedi’i ddatgan) gael ei gyhoeddi. Nid oes unrhyw weithgarwch gwleidyddol wedi’i ddatgan.