Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, wedi cyhoeddi penodiad Martin Buckle fel Cadeirydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
Mae gan Martin gefndir ym maes cynllunio, trafnidiaeth ac adfywio, yn ogystal â rheoli risg llifogydd. Daw â sawl blwyddyn o brofiad yn rheoli timau amlddisgyblaethol, ac mae wedi gweithio ar nifer o Fyrddau a phwyllgorau, a'u cadeirio.
Cafodd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol ei sefydlu o dan ddarpariaethau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Pwrpas y Pwyllgor yw cynghori Gweinidogion Cymru ar bob mater sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth a pharatoi a chryfhau cymunedau i allu gwrthsefyll llifogydd.
Dywedodd Hannah Blythyn:
"Dwi'n falch iawn bod Martin Buckle wedi cytuno i gadeirio y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae ei brofiad, ei wybodaeth a'i arbenigedd yn helpu inni gyflawni ein blaenoriaethau ar hyn o bryd a blaenoriaethau cenedlaethol hirdymor fel a bennir yn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol."
Caiff cadeirydd y Pwyllgor ei dalu £225 y diwrnod gydag ymrwymiad amser o hyd at 36 diwrnod y flwyddyn, gyda tymor cychwynnol o dair blynedd. Nid oes gan Martin Buckle unrhyw benodiadau Gweinidogol eraill.
Caiff pob penodiad eu gwneud yn ôl teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, nid yw'n ofynnol i gyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol unrhyw un a gaiff eu penodi (os byddant yn datgan hynny). Nid yw Martin Buckle wedi cyflawni unrhyw weithgareddau gwleidyddol yn y bum mlynedd ddiwethaf.