Mae Caroline Phipps wedi'i phenodi'n Gadeirydd y Panel o 14 Awst 2017 i 13 Awst 2018.
Mae Caroline Phipps wedi'i phenodi'n Gadeirydd y Panel o 14 Awst 2017 i 13 Awst 2018.
Corff cynghori arbenigol annibynnol a noddir gan Lywodraeth Cymru yw'r Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau. Fe'i sefydlwyd o dan bwerau gweithredol cyffredinol Gweinidogion Cymru ac mae'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Cylch gwaith y Panel yw cynghori ar fesurau i atal neu leihau'r camddefnydd o sylweddau, a'r niwed cysylltiedig i iechyd a chymdeithas, ac adolygu'r gwaith o weithredu Strategaeth Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau.
Bydd y panel yn cynnwys dim llai nag wyth a dim mwy na 12 o Aelodau'r Panel, y mae pob un ohonynt yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru.
Nid yw Aelodau'r Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau (APoSM), gan gynnwys y Cadeirydd, yn cael eu talu, ond maent yn cael eu had-dalu am gostau cynhaliaeth a theithio rhesymol. Mae ganddynt ymrwymiad amser o hyd at 10 diwrnod y flwyddyn.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, a lleihau’r niwed hwnnw. Rwy'n falch iawn bod Caroline Phipps wedi cytuno i ysgwyddo rôl Cadeirydd y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau am y 12 mis nesaf.
“Rwy'n hyderus y bydd ehangder gwybodaeth a phrofiad Caroline, ynghyd â chyfraniad parhaus Aelodau eraill o'r Panel, yn amhrisiadwy.”