Neidio i'r prif gynnwy

Penodwyd Julie Morgan AC fel Cadeirydd newydd pwyllgor sy’n helpu i sicrhau bod Cymru’n manteisio i’r eithaf ar Gronfeydd yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru yn gyfrifol am fonitro effeithiolrwydd y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yng Nghymru, sy’n helpu pobl i gael gwaith, ysgogi twf busnesau ac arloesi, ac yn helpu cymunedau lleol.

Daw Julie Morgan yn lle’r cyn-gadeirydd, Mick Antoniw AC, a benodwyd fel Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni.

Bydd yn arwain y Pwyllgor o 28 o aelodau sy’n cynrychioli partneriaid a sectorau, gan gynnwys byd busnes, addysg, llywodraeth leol, diwydiannau’r tir a’r trydydd sector, ac sydd wedi’u penodi yn ôl haeddiant drwy benodiadau cyhoeddus.

Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am oruchwylio’r rhaglenni Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).

Wrth benodi Mrs Morgan, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

“Mae arian Ewropeaidd yn hanfodol i gefnogi’n polisïau ar gyfer swyddi a thwf cynaliadwy, ac fe fydd y Cadeirydd yn chwarae rhan bwysig yn sicrhau ein bod ni’n parhau i fanteisio i’r eithaf ar bob buddsoddiad Ewropeaidd sydd ar gael.

“Rwy’ wedi gofyn am ymrwymiad cadarn na fydd Cymru’n colli ceiniog o’r arian Ewropeaidd rydyn ni’n ei gael ar hyn o bryd nes 2023 o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni’n parhau i drafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau fydd yn cael eu cytuno ar ôl Datganiad yr Hydref eleni.

“Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau’r fargen orau i Gymru yn y trafodaethau sydd i ddod ar delerau ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn cynnwys diogelu’r holl gyllid sydd ar gael i Gymru ar hyn o bryd er mwyn i fusnesau, pobl a’r gymuned barhau i gael y gefnogaeth angenrheidiol.”

Dywedodd Mrs Morgan:

“Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Gadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru. Mae’r cyllid Ewropeaidd sy’n cael ei roi i Gymru yno am reswm – cefnogi twf a swyddi – ac rydyn ni’n benderfynol o ddefnyddio’r cronfeydd Ewropeaidd yn llwyddiannus.

“Bydd y Pwyllgor hefyd yn helpu i lunio strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau’r canlyniadau gorau posib wrth i ni baratoi i newid ein perthynas gydag Ewrop.”