Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, fod yr Athro Ceri Phillips wedi'i benodi fel Cadeirydd newydd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth gyhoeddi cyfnod pedair blynedd yr Athro Phillips fel Cadeirydd y Grŵp, dywedodd y Gweinidog:

“Mae'r Athro Phillips yn dod â phrofiad eang o'r sector iechyd gydag ef i’r rôl ac roedd yn un o sefydlwyr Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru.

“Rydw i'n edrych ymlaen at weithio gydag ef yn y dyfodol i sicrhau ein bod ni'n parhau i gyflawni Cymru Iachach  – ein gweledigaeth ar gyfer helpu pobl i aros yn iach, mabwysiadu ffyrdd iachach o fyw, a byw'n annibynnol cyhyd â phosibl.”

Cafodd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ei sefydlu yn 2002 ac mae'n cynghori ar ddefnyddio triniaethau newydd yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, rheoli meddyginiaethau a phresgripsiynu i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd yr Athro Phillips am ei benodiad:

“Rydw i wrth fy modd o fod wedi fy mhenodi yn Gadeirydd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru. Mae'n anrhydedd cael dychwelyd i'r sefydliad hwn, a oedd yn rhan mor bwysig o'm bywyd gwaith yn ystod ei wyth blynedd gyntaf. Edrychaf ymlaen at gydweithio â chyfeillion a rhanddeiliaid wrth i'r Grŵp ddechrau ar bennod newydd yn ei hanes.”

Cafodd y penodiad ei wneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Mae'r Athro Phillips hefyd yn aelod annibynnol o fwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru.