Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod Maria Battle wedi ei phenodi'n Gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am gyfnod o bedair blynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd y Gweinidog:

Mae Maria yn dod â chyfoeth o brofiad o'i hamser yn y GIG i'r rôl hon. 

Dw i'n hyderus y bydd ei gwybodaeth drylwyr, a'i hegni a'i brwdfrydedd, yn ein helpu i gyflawni nodau “Cymru Iachach”, sef ein gweledigaeth ar gyfer helpu pobl Cymru i aros yn iach, mabwysiadu ffyrdd iachach o fyw, a byw'n annibynnol cyhyd â phosibl.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i oddeutu 384,000 o bobl ym mhob rhan o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Ar ôl cael ei phenodi, dywedodd Maria:

Dw i wrth fy modd o fod wedi cael fy mhenodi'n Gadeirydd Hywel Dda a dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda'i holl dimau diwyd ac ymroddgar i barhau i wella perfformiad. Yn ystod fy wyth mlynedd fel arweinydd yn y GIG, dw i wedi dysgu mai'r peth pwysicaf yw gwrando ar ein cleifion, ein staff a'n cymuned, er mwyn inni allu gweithio gyda'n gilydd yn effeithiol i wella ein gwasanaeth iechyd yn barhaus

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Hywel Dda, Steve Moore:

Ar ran y Bwrdd Iechyd, mae'n bleser gen i estyn croeso cynnes i Maria wrth iddi ymgymryd â'i rôl newydd fel Cadeirydd Hywel Dda. Mae Maria'n ymuno â ni ar adeg o newidiadau mawr yng ngwasanaethau'r GIG yn y Gorllewin, a dw i'n gwybod y bydd hi'n dod â'r un brwdfrydedd, egni, ac ymroddiad i'n bwrdd iechyd ni ag y gwnaeth i'w rôl flaenorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae Maria wedi dal nifer i swyddi uwch ar draws sector cyhoeddus Cymru, ac mae'n dod â chyfoeth o brofiad gwerthfawr. Rydyn ni wrth ein bodd â'i phenodiad.

Cafodd y penodiad ei wneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.