Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi penodi Michael Macphail yn gadeirydd newydd Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol (WIDAB) am gyfnod fydd yn para tair blynedd.
Mae WIDAB yn rhoi cyngor i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar economi Cymru ac yn helpu Llywodraeth Cymru i wireddu'i nod o sbarduno twf cynaliadwy a chynhwysol ym mhob un o ranbarthau Cymru trwy'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Rhan ganolog o waith WIDAB yw rhoi cyngor ar brosiectau unigol sy'n gofyn am fwy na £1 miliwn o gymorth oddi wrth gynlluniau o dan Gronfa Dyfodol yr Economi.
Fel Cadeirydd, bydd Michael yn arwain trafodaethau'r Bwrdd ac yn helpu ei gydaelodau i ddod i gonsensws a rhoi argymhellion addas i'r Gweinidog. Bydd yn helpu hefyd i recriwtio aelodau newydd y Bwrdd fis Gorffennaf a mis Medi eleni.
Mae Michael yn beiriannydd siartredig, yn gymrodor o Athrofa'r Peirianwyr Mecanyddol ac yn gyn Gyfarwyddwr Peiriannu gyda Tata Steel Europe. Mae wedi cael gyrfa amrywiol ac eang yn y diwydiant dur mewn swyddi cyfrifol ym meysydd peirianneg, gweithrediadau ac adnoddau dynol yn y DU ac yn Ewrop.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
"Mae'n bleser gen i gyhoeddi bod Michael Macphail wedi'i benodi'n gadeirydd newydd Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol.
"Bydd profiad ac arbenigedd Michael yn amhrisiadwy o ran rhoi cyfeiriad i'r bwrdd a rhoi cyngor clir i ni i'n helpu i wireddu'n nodau ar gyfer economi Cymru.
"Rwy'n disgwyl ymlaen at weithio gyda fe am y tair blynedd nesaf."