Heddiw (Dydd Mawrth 29ain Medi), cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, fod Kate Eden wedi ei phenodi’n Gadeirydd newydd y Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol. Bydd Kate yn dechrau yn ei swydd fel Cadeirydd ar 1 Hydref 2020, a bydd yn gwasanaethu am gyfnod o bedair blynedd.
Mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol yn gyfrifol am gydgynllunio a chomisiynu gwasanaethau arbenigol ac arbenigol iawn ar ran y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru.
Mae gan Kate brofiad helaeth o weithio ar lefel uwch mewn cwmnïau preifat a chyhoeddus, yn ogystal ag 17 o flynyddoedd o weithio gyda’r llywodraeth, y sector cyhoeddus, a’r trydydd sector. Mae hi hefyd yn aelod annibynnol o Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn Is-gadeirydd arno, rôl y bydd yn parhau i’w chyflawni ochr yn ochr â’i swydd newydd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
Mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi mai Kate Eden yw Cadeirydd newydd y Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol. Mae hon yn rôl hynod bwysig, a dw i’n siŵr y bydd Kate yn dod â’i sgiliau a’i phrofiad gwerthfawr iddi. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddi, a dw i’n edrych ymlaen at gydweithio â hi.
Hefyd, hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd, yr Athro Vivienne Harpwood, sy’n gorffen yn ei rôl fel Cadeirydd, am ei hymroddiad yn ystod cyfnod ei swydd, ac rwy’n dymuno’n dda iddi hithau hefyd. Mae wedi bod yn cyflawni’r rôl o Gadeirydd interim ar y Pwyllgor hwn am ychydig dros dair blynedd, ac mae hi wedi dangos arweinyddiaeth wych yn ystod y cyfnod hwnnw.
Ar ôl cael ei phenodi, dywedodd Kate Eden:
Dw i wrth fy modd o fod wedi cael cynnig y swydd hon gan y Gweinidog. Mae’n gyfle cyffrous iawn, a dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’m cydweithwyr ar y Pwyllgor i ddatblygu’r weledigaeth ar gyfer gwasanaethau arbenigol yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd yr Athro Vivienne Harpwood:
Hoffwn groesawu Kate Eden fel Cadeirydd newydd y Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol a dymuno pob llwyddiant iddi. Mae hon yn rôl ddiddorol a heriol, a dw i’n gobeithio y bydd Kate yn ei mwynhau gymaint ag ydw i wedi ei gwneud. Hoffwn ddiolch i bawb ar y Pwyllgor am eu croeso a’u cymorth yn ystod fy nghyfnod yn y rôl hon.