Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Is-gadeirydd newydd a phedwar aelod newydd i Fwrdd Chwaraeon Cymru.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:
Mae Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, wedi penodi Pippa Britton yn Is-gadeirydd Chwaraeon Cymru. Mrs Britton yw Cadeirydd Chwaraeon Anabledd Cymru ar hyn o bryd ac mae'n gyn-athletwr rhyngwladol.


Mae'r Gweinidog hefyd wedi penodi pedwar aelod newydd i'r Bwrdd sef Ashok Ahir, Ian Bancroft, Christian Malcolm ac Alison Thorne. Bydd yr aelodau newydd yn dechrau eu swydd, a fydd yn para tair blynedd, ar 1 Hydref 2017. 


Ar ben hynny, mae'r Gweinidog wedi ailbenodi Richard Parks a Samar Wafa yn aelodau'r Bwrdd. Byddant ymgymryd â'u rôl, a fydd hefyd yn para tair blynedd, ar 1 Medi 2017.

Penodwyd yr aelodau hyn yn unol â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.

Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, a'r prif gwmni sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n ymwneud â chwaraeon. Mae Chwaraeon Cymru yn gyfrifol hefyd am ddosbarthu arian y Loteri Genedlaethol i'r campau elît ac i gampau ar lawr gwlad yng Nghymru.

Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd:

"Rwy'n hynod falch o benodi Pippa Britton yn Is-gadeirydd newydd Chwaraeon Cymru, ac Ashok Ahir, Ian Bancroft, Christian Malcolm ac Alison Thorne yn aelodau'r Bwrdd. Rwyf hefyd yn falch o ailbenodi Richard Parks a Samar Wafa yn aelodau'r Bwrdd. 

“Gyda'i gilydd, mae ganddynt brofiad helaeth o ysbrydoli cymunedau llai egnïol i gymryd mwy o ran mewn chwaraeon, yn ogystal â dealltwriaeth o anghenion athletwyr elît.  Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau newydd am dderbyn y gwahoddiad i wasanaethu ar y Bwrdd. Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau hynny sy'n gadael am eu gwasanaeth. 

“Rwy'n hyderus bod gan y bwrdd yr arbenigedd a'r profiad angenrheidiol i'm helpu i a staff Chwaraeon Cymru i gyflawni ein huchelgais i greu cenedl fwy egnïol a llwyddiannus.  Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw.”

Dywedodd Lawrence Conway, Cadeirydd Chwaraeon Cymru: 

"Rwy'n falch o groesawu pum aelod newydd i'r Bwrdd. Maen nhw'n ymuno â Chwaraeon Cymru ar adeg bwysig wrth inni ddatblygu ein strategaeth gorfforaethol newydd. Bydd gwybodaeth a phrofiad eang yr aelodau yn atgyfnerthu'r Bwrdd a byddant yn gallu rhannu eu dealltwriaeth a'u safbwyntiau er mwyn llywio trafodaethau. Hoffwn ddiolch i'r aelodau sy'n gadael am eu hymrwymiad a'u cyfraniad gwerthfawr at sicrhau llwyddiant chwaraeon yng Nghymru."