Gosod terfynau cyflymder o 30mya ar ffyrdd cyfyngedig: canllawiau i awdurdodau priffyrdd
Helpu awdurdodau priffyrdd i benderfynu lle gall terfynau cyflymder o 20mya gynyddu i 30mya.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cyflwyniad
1.1 Statws
1.1.1
Mae'r canllawiau hyn gan Lywodraeth Cymru ar bennu terfynau o 30mya ar ffyrdd cyfyngedig a ffyrdd 20mya eraill yn atodiad i Gylchlythyr Rhif 24/2009 Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru.
Mae'n disodli'r adran sy'n ymdrin â therfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig a therfynau a pharthau 20mya, heblaw lle y cyfeirir at rannau penodol.
Mae'r canllawiau hyn yn disodli ‘Pennu eithriadau i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig’.
Mae'n gymwys yn yr un modd i ffyrdd cyfyngedig ac i ffyrdd lle mae terfyn cyflymder o 20mya wedi'i gymhwyso drwy orchymyn yr awdurdod traffig o dan adran 84(1)(a) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (‘Deddf 1984’).
1.1.2
Caiff y canllawiau hyn eu cyhoeddi cyn y cylchlythyr diwygiedig, a fydd yn adlewyrchu'r newid i derfyn cyflymder o 20mya ar gyfer ffyrdd cyfyngedig. Bydd y cylchlythyr diwygiedig yn ymgorffori ac yn disodli'r canllawiau hyn.
1.1.3
Mae'r canllawiau hyn yn seiliedig ar y System Ddiogel[troednodyn 1], sy'n dadlau o blaid cyflymderau diogel sy'n briodol i nodweddion y ffordd, ei swyddogaeth a goddefiant ffisegol ei defnyddwyr[troednodyn 2].
1.2 Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022
1.2.1
Gwnaed Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 gan Weinidogion Cymru ar 13 Gorffennaf 2022 ar ôl i Senedd Cymru benderfynu cymeradwyo drafft o'r Gorchymyn. Daeth i rym ar 17 Medi 2023.
1.2.2
Roedd y Gorchymyn yn gostwng y terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig, a bennwyd gan adran 81(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (“Deddf 1984”) i 20mya.
1.2.3
Fel arfer, mae ffordd yng Nghymru a Lloegr yn ffordd gyfyngedig os bydd ganddi system o oleuadau stryd ar ffurf lampau wedi’u gosod heb fod yn fwy na 200 llath ar wahân i’w gilydd (gweler adran 81 o Ddeddf 1984).
Mae'r rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig mewn ardaloedd adeiledig.
O dan adran 82(2) o Ddeddf 1984, gall awdurdod traffig gyfarwyddo nad yw ffordd o'r fath yn ffordd gyfyngedig a gall gyfarwyddo y bydd ffordd nad yw'n ffordd gyfyngedig yn dod yn ffordd gyfyngedig.
Yn rhinwedd adran 84(3) o Ddeddf 1984, nid yw ffordd yn ffordd gyfyngedig os bydd gorchymyn terfyn cyflymder mewn grym mewn perthynas â'r ffordd honno o dan adran 84(1)(a) o'r Ddeddf honno.
1.3 Pwrpas
1.3.1 Nod y canllawiau hyn yw cynorthwyo awdurdodau priffyrdd i wneud penderfyniadau rhesymegol ynghylch pennu terfynau cyflymder o 30mya.
Mae'n darparu fframwaith i awdurdodau priffyrdd yng Nghymru (sy'n awdurdodau traffig wrth reoleiddio terfynau cyflymder) asesu a yw'n ddiogel ac yn briodol codi'r terfyn cyflymder i 30mya ar ffyrdd cyfyngedig a ffyrdd eraill lle ceir terfyn cyflymder o 20mya, gan ystyried ffactorau ac amgylchiadau lleol hefyd.
1.3.2
Datblygwyd y canllawiau hyn gan ystyried:
- Gwaith y panel adolygu: adroddiad cychwynnol ac adroddiad terfynol.
- Adborth o Raglen Wrando 20mya Llywodraeth Cymru.
- Mewnbwn gan Gymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru.
- Adborth gan awdurdodau priffyrdd, gan ymgorffori safbwyntiau'r cyhoedd a rannwyd â Llywodraeth Cymru.
1.3.3
Rydym yn rhagweld mai ar ffyrdd A a B, sydd fel arfer yn brif ffyrdd neu'n ffyrdd strategol y gwneir y rhan fwyaf o'r newidiadau i derfynau cyflymder o 20mya i 30mya.
Gellid pennu terfyn cyflymder o 30mya ar ffyrdd os ydynt y tu allan i ganol dinasoedd, trefi neu bentrefi ac i ffwrdd oddi wrth leoedd sy'n denu llawer o draffig[troednodyn 3] cerddwyr a/neu feicwyr lle ceir dwyster tai is (llai nag 20 eiddo fesul km) a lle, os bydd cerddwyr a beicwyr, maent yn cael eu harwahanu oddi wrth draffig cerbydau modur neu y gellid gwneud hynny).
O ganlyniad, nid oes angen ailasesu pob ffordd.
Troednodiadau
[1] Mae'r System Ddiogel yn seiliedig ar yr egwyddorion:
- Bod pobl yn gwneud camgymeriadau sy'n arwain at ddamweiniau
- Bod gallu'r corff dynol i oddef damwain yn gyfyngedig
- Bod diogelwch ar y ffyrdd yn gyfrifoldeb a rennir i'r rhai sy'n cynllunio, yn adeiladu, yn rheoli ac yn defnyddio ffyrdd a cherbydau a'r rhai sy'n darparu gofal ar ôl damweiniau
- Bod yn rhaid atgyfnerthu pob rhan o'r system ynghyd â lluosi ei heffaith, felly os bydd un rhan yn methu, bydd rhan arall yno o hyd i ddiogelu.
Gallwch darllen mwy ar wefan RoSPA.
[2] Gallu defnyddwyr ffyrdd i wrthsefyll grymoedd damwain heb gael anaf difrifol.
[3] Drwy'r ddogfen gyfan, mae cyfeiriadau at gerddwyr a cherdded yn cynnwys pobl sy'n defnyddio: cymhorthion symudedd fel cadeiriau olwyn a fframiau cerdded ag olwynion; ‘cerbydau pobl anabl’ gan gynnwys sgwteri symudedd wedi'u cynllunio i'w defnyddio ar y droedffordd, a phobl ag amhariadau corfforol, synhwyraidd neu wybyddol sy'n teithio ar droed.
2. Egwyddorion
2.1 Datganiad Stockholm y Cenhedloedd Unedig
2.1.1
Yn unol â dyhead Llywodraeth Cymru i gefnogi nodau Datganiad Stockholm, dylai cyflymder o 20mya barhau, lle mae cerddwyr a/neu feicwyr a cherbydau modur yn cymysgu “mewn modd rheolaidd a threfnus, ac eithrio lle mae tystiolaeth gref yn bodoli bod cyflymderau uwch yn ddiogel”[troednodyn 4].
2.2 Fframwaith y canllawiau
2.2.1
Nod y fframwaith sy'n ymddangos yn y canllawiau hyn yw cefnogi awdurdodau priffyrdd i wneud y canlynol:
- pwyso a mesur manteision ac anfanteision posibl codi'r terfyn cyflymder, gan ystyried eu dyletswyddau a'u swyddogaethau statudol
- asesu ffyrdd yn unol â meini prawf cyffredin (lle, symudiad, nodweddion ffyrdd) sy'n berthnasol wrth bennu'r terfyn cyflymder priodol, o ystyried amgylchiadau lleol
- sicrhau bod unrhyw gyfaddawdu rhwng y meini prawf gwahanol, a'r cyfiawnhad dros y penderfyniadau a wnaed yn glir, yn rhesymedig ac wedi'u dogfennu ym mhob achos.
2.2.2
Mae gan awdurdodau priffyrdd y pwerau i bennu terfynau cyflymder sy'n addas ar gyfer ffyrdd unigol, o ystyried anghenion ac amodau lleol penodol.
O ystyried natur amrywiol ffyrdd ac amgylchiadau lleol ledled Cymru, nid yw'n ymarferol i'r canllawiau hyn gwmpasu pob senario.
Gall awdurdodau priffyrdd wyro oddi wrth y canllawiau hyn. Mewn achosion o'r fath, fe'u cynghorir i roi cyfiawnhad clir a rhesymedig dros eu penderfyniad.
[4] I'w bennu gan yr awdurdod priffyrdd
3. Pwyso a mesur manteision ac anfanteision
3.1 Cyflwyniad
3.1.1
Wrth ystyried a ellir pennu terfyn cyflymder lleol, dylai awdurdodau priffyrdd bwyso a mesur manteision ac anfanteision posibl codi'r terfyn cyflymder. Er enghraifft, dylai awdurdodau ystyried y cyfaddawdu rhwng anfanteision y cyflymderau uwch, fel mwy o anafusion ac anafiadau mwy difrifol, sŵn a risg ganfyddedig (a all olygu bod pobl yn penderfynu peidio â cherdded, olwyno a beicio, sy'n effeithio ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl), a manteision llai o amser teithio, arbedion economaidd posibl a mwy o effeithlonrwydd.
3.1.2
Wrth bennu terfynau cyflymder, efallai na fydd yn bosibl cyflawni pob amcan, er enghraifft: sicrhau bod y ffordd yn ddiogel i bob defnyddiwr a lleihau amseroedd teithio. Fel y cyfryw, dylid eu hystyried fesul achos, gan ddefnyddio prosesau cyfiawnhau rhesymedig a chyfeirio at dystiolaeth berthnasol. Mewn rhai sefyllfaoedd, gall fod yn ymarferol cysoni amcanion sy'n ymddangos yn groes i'w gilydd, drwy addasu seilwaith ffyrdd. Er enghraifft, gallai gosod cyfleusterau i gerddwyr a beicwyr fynd i'r afael â'r naill fater a'r llall.
3.1.3
Dylai awdurdodau priffyrdd hefyd ystyried eu dyletswyddau a'u swyddogaethau statudol ehangach, e.e:
- Deddf Cydraddoldeb 2010
- Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
- Dyletswyddau perthnasol yn Neddf Rheoli Traffig 2004 (er mwyn sicrhau bod traffig yn symud yn gynt)
- Deddf Traffig Ffyrdd 1988 (er mwyn atal damweiniau)
- Deddf 1984 (dyletswydd ar awdurdodau priffyrdd lleol cyhyd ag y bo'n ymarferol mewn perthynas â'r materion a bennir yn adran 122(2) o'r Ddeddf i sicrhau bod traffig cerbydau modur a phob traffig arall, gan gynnwys cerddwyr, yn symud mewn modd cyflym, cyfleus a diogel wrth arfer swyddogaethau o dan Ddeddf 1984 fel pennu terfynau cyflymder).
3.2 Manteision cyflymderau uwch
3.2.1
Mae ffyrdd yn goridorau hanfodol ar gyfer symud, a gall gostyngiadau diogel mewn amseroedd teithio cerbydau arwain at fanteision cymdeithasol, economaidd a gweithredol sylweddol. Er mwyn gwerthuso'r manteision hyn, mae angen ystyried pwysigrwydd y llwybr a'r amser y gellid ei arbed ar deithiau i ddefnyddwyr allweddol.
3.2.2
Dylid gwerthuso manteision posibl pennu terfyn cyflymder uwch ar gyfer ffordd drwy ystyried y canlynol:
- pwysigrwydd y llwybr fel coridor symud ar gyfer traffig cerbydau modur
- yr arbedion amser teithiau a ddisgwylir, yn arbennig ar gyfer bysiau, gwasanaethau cludo llwythi a gwasanaethau nad ydynt yn rhai brys (yn benodol, ar gyfer teithiau ambiwlans nad ydynt yn rhai brys, gweithwyr brys nad ydynt yn rhai golau glas fel ymatebwyr cyntaf, a diffoddwyr tân wrth gefn neu weithwyr gofal cymdeithasol), pe byddai'r terfyn cyflymder yn cael ei godi i 30mya.
3.3 Anfanteision cyflymderau uwch
3.3.1
Dylid gwerthuso anfanteision posibl pennu terfyn cyflymder o 30mya ar gyfer ffordd drwy ystyried y ffactorau canlynol:
- effaith ar gerdded, olwyno a beicio yn ddiogel: Bydd codi'r terfyn cyflymder yn arwain at ganlyniadau negyddol ar nifer o ganlyniadau pwysig (e.e. diogelwch, anawsterau i gerddwyr sy'n croesi ffyrdd, y posibilrwydd o atal pobl rhag cerdded, olwyno a beicio, ac a allai arwain at ganlyniadau iechyd corfforol ac iechyd meddwl negyddol), yn enwedig oherwydd y gydberthynas glir rhwng cyflymder gwrthdrawiad ac amlder a difrifoldeb anafusion.
- data gwrthdrawiadau: Byddai amlder uchel o wrthdrawiadau ac anafusion (pan oedd y terfyn yn arfer bod yn 30mya) yn lleihau'r cyfiawnhad dros godi'r terfyn. Fodd bynnag, ni ddylai absenoldeb gwrthdrawiadau yn flaenorol gyfiawnhau terfyn cyflymder uwch, oherwydd y gallai cyflymderau uchel fod wedi atal cerddwyr a beicwyr rhag defnyddio ffordd.
- asesu risg o wrthdrawiad: Dylid asesu'r posibilrwydd o wrthdrawiadau drwy ystyried nifer y symudiadau cerddwyr a beicwyr, gan gynnwys at ddibenion hamdden, a'r risg o wrthdrawiad, o ystyried llif y traffig. Gellir pennu hyn yn bennaf drwy ffactorau fel a oes cyrchfannau/lleoedd sy'n denu teithiau ar gyfer cerdded, olwyno a beicio, ac a yw'r llwybr yn goridor cerdded, olwyno neu feicio pwysig (fel hawl tramwy cyhoeddus neu lwybr sydd wedi'i nodi ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol).
- diogelwch canfyddedig a chydlyniant cymunedol: Gall cyflymderau uwch greu peryglon gwirioneddol a chanfyddedig a all wneud lleoedd yn llai deniadol ac amharu ar gydlyniant cymunedol a rhyngweithio.
- ansawdd aer: Gall cyflymderau uwch atal pobl rhag cerdded a beicio gan arwain at fwy o ddibyniaeth ar gerbydau modur preifat (sydd, yn ei dro, yn arwain at lygredd ac ansawdd aer gwael)
- llygredd sŵn: Gwerthuso lefelau sŵn gan ystyried patrymau llif traffig, mathau o gerbydau ac agosrwydd eiddo preswyl i'r ffordd.
3.4 Crynodeb
3.4.1
Er mwyn cydbwyso'r amcanion croes hyn, mae angen mabwysiadu dull cyfannol sy'n ystyried dyletswyddau statudol a fframweithiau deddfwriaethol ehangach.
Yn y bôn, dylai awdurdodau priffyrdd arfer eu disgresiwn a'u barn i sicrhau bod terfynau cyflymder yn cael eu pennu mewn ffordd sy'n annog diogelwch, effeithlonrwydd a llesiant cymunedol.
4. Meini prawf
Cyflwyniad
4.1.1
Disgwylir mai ar ffyrdd dosbarthiadol A a B y caiff y terfyn cyflymder ei godi i 30mya yn bennaf. Ar y cyfan, y rhain yw'r prif lwybrau neu'r llwybrau strategol sy'n cario traffig drwy ardaloedd trefol.
4.1.2
Fel arfer, ffyrdd dosbarth C a ffyrdd di-ddosbarth mewn ardaloedd trefol sy'n cario'r rhan fwyaf o draffig lleol ac sy'n gwasanaethu eiddo preswyl yn bennaf. Fel arfer, maent yn llwybrau pwysig i bobl sy'n cerdded, yn olwyno ac yn beicio. Ni ddisgwylir i derfyn cyflymder o 30mya gael ei bennu ar gyfer y ffyrdd hyn. Fodd bynnag, gall awdurdodau benderfynu eu codi yn seiliedig ar y canllawiau hyn ac achos rhesymedig sy'n cyfeirio at ffactorau lleol.
4.1.3
Wrth bennu a ddylid codi terfyn cyflymder i 30mya, dylai awdurdodau priffyrdd ystyried meini prawf amrywiol, gan gynnwys lle, symudiad a nodweddion ffyrdd ac unrhyw amodau lleol ychwanegol yr ystyrir eu bod yn berthnasol.
Meini prawf lle
4.2.1
Ni fyddai 30mya yn briodol ar rannau o ffyrdd lle gallai fod galw mawr am gyfleoedd cerdded, olwyno a beicio, fel:
- o fewn taith gerdded o 100m i unrhyw leoliad addysgol (e.e. meithrinfa, ysgol gynradd, ysgol uwchradd, addysg bellach neu addysg uwch)
- o fewn taith gerdded o 100m i unrhyw gyfleuster cymunedol
- o fewn taith gerdded o 100m i unrhyw gyfleuster meddygol, e.e. ysbytai, meddygfeydd meddygon teulu ac ati
- lle mae nifer y mangreoedd preswyl a/neu fanwerthu ar ffryntiad uniongyrchol ffordd yn fwy nag 20 eiddo fesul km.
4.2.2
O ran meini prawf ‘lle’, gellid defnyddio terfynau o 30mya ar y canlynol:
- prif ffyrdd neu ffyrdd strategol y tu allan i ganol dinasoedd/trefi/pentrefi neu brif strydoedd.
- ffyrdd y tu allan i ardaloedd dwyster uchel ac i ffwrdd oddi wrth leoedd sy'n denu teithiau aml gan gerddwyr a/neu feicwyr[troednodyn 5].
- ffyrdd gyda dwysedd isel iawn o ran tai a/neu nifer bach iawn o dai at ei gilydd (llai nag 20 eiddo fesul km).
- ffyrdd lle mae mangreoedd preswyl a manwerthu ar un ochr yn unig ac nad oes angen croesi'r ffordd i gyrraedd gwasanaethau na chyfleusterau (neu os oes croesfannau diogel ar gael neu y byddant ar gael, yn unol â'r Canllawiau Ddeddf Teithio Llesol).
4.3 Symud
4.3.1
O ran meini prawf ‘symud’, gellid defnyddio terfynau o 30mya ar:
- ffyrdd strategol, fel y rhai ar gyfer cludo llwythi neu goridorau bws pwysig, lle ceir tystiolaeth[troednodyn 6] bod amseroedd teithiau wedi cynyddu'n sylweddol ers i'r terfyn cyflymder gael ei newid i 20mya
- isffyrdd mewn ardaloedd diwydiannol gyda galw isel am draffig cerddwyr neu feicwyr, neu ardaloedd sydd wedi'u hamgylchynu gan dir agored (heb gynnwys meysydd chwaraeon, parciau neu feysydd chwarae y mae angen cael mynediad iddynt drwy'r ffordd dan sylw).
4.4 Nodweddion ffyrdd
4.4.1
O ran ‘nodweddion ffordd’, gellid ystyried terfynau o 30mya:
- lle ceir cyfleusterau wedi'u harwahanu (o led digonol, yn unol â'r Canllawiau Ddeddf Teithio Llesol) ar hyd y ffordd a chroesfannau diogel i gerddwyr a beicwyr (a/neu y gallai'r rhain fod ar gael. Os felly, gellid ystyried newidiadau i'r cyflymder unwaith iddynt gael eu cyflwyno). Bydd angen rhoi ystyriaeth ar wahân i raddau ac ansawdd mesurau diogelwch ar hyd (y llwybr/lôn feicio) ac ar draws y ffordd (byddai angen darparu cyfleusterau diogel ar gyfer cerddwyr a beicwyr sy'n cydymffurfio â Chanllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol).
- lle ceir galw isel (neu dim galw o bosibl e.e. lleoedd arfaethedig i ddenu teithiau yn y dyfodol) i gerddwyr a beicwyr groesi'r ffordd (e.e. dim ond ar un ochr y mae'r datblygiad).
- lle mae'r ffordd wedi'i dylunio er mwyn sicrhau bod geometreg a nodweddion priffyrdd yn cefnogi cyflymder diogel uwch o 30mya.
4.5 Asesu terfyn cyflymder
4.5.1
Wrth asesu ffyrdd gan ddefnyddio'r meini prawf a nodir uchod, bydd rhai gwerthusiadau yn nodi'n gryf briodoldeb terfyn cyflymder o 20mya neu 30mya. Fodd bynnag, mewn achosion lle mae'r meini prawf yn arwain at ganlyniadau cymysg, gellid rhoi mesurau peirianneg ar waith i gefnogi codi'r terfyn cyflymder o 20mya i 30mya.
4.5.2
Os bydd yr asesiad a gynhelir yn cefnogi cadw'r terfyn cyflymder o 20mya ar y cyfan, ond bod tystiolaeth yn dangos yr effeithir yn sylweddol ar lwybrau bws, gan arwain at amseroedd teithio hwy a thoriadau dilynol i wasanaethau neu ardaloedd a wasanaethir, yna dylid ystyried rhoi mesurau blaenoriaethu bysiau ar waith ar hyd y llwybrau yr effeithir arnynt.
4.6 Isafswm hyd terfynau cyflymder
4.6.1
Wrth gymhwyso'r canllawiau hyn, dylid osgoi newid terfynau cyflymder yn aml, er mwyn osgoi dryswch ymysg gyrwyr.
4.6.2
Fel y nodir yn y cylchlythyr Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru ‘yn gyffredinol, ni ddylai isafswm hyd terfyn cyflymder fod yn llai na 600 metr er mwyn osgoi gormod o newidiadau ar hyd y ffordd. Gellir lleihau’r hyd hwn i 400 metr ar gyfer terfynau cyflymder is neu hyd yn oed 300 metr ar ffyrdd â swyddogaeth mynediad lleol yn unig. Nid argymhellir unrhyw beth byrrach.’ Nid yw'r isafsymiau hyd hyn yn gymwys i derfynau clustogi, a nodir isod.
4.7 Terfynau cyflymder clustogi
4.7.1
Dylai awdurdodau priffyrdd werthuso sefyllfaoedd lle gall terfyn cyflymder clustogi fod yn briodol, yn enwedig yn y senarios canlynol:
- newidiadau sylweddol mewn terfynau cyflymder wrth ddynesu at gymunedau, lle mae'r gwahaniaeth uwchlaw 20mya a lle nad yw'r cyflymderau dynesu wedi'u cyfyngu gan nodweddion lled, aliniad nac unrhyw nodweddion gweledol eraill.
- lleoliadau lle mae aliniad priffordd yn cyfyngu ar y gallu i weld arwyddion terfynol terfynau cyflymder, gan fethu bodloni'r meini prawf a nodir ym Mhennod 3 o'r Llawlyfr Arwyddion Traffig o bosibl. Dylid archwilio'r broses o symud arwyddion terfynol terfynau cyflymder hefyd yn y lle cyntaf.
- gweithredu ôl-weithredol mewn ardaloedd a nodwyd drwy'r angen am weithgareddau gorfodi rheolaidd, fel cyfraddau gwrthdrawiadau uchel neu gyflymderau gwirioneddol rhy uchel ar ffyrdd 20mya.
- newidiadau mewn nodweddion priffyrdd rhwng cymunedau (e.e. newid o ardaloedd gwledig i ardaloedd trefol) lle na all gyrwyr weld nodweddion ffisegol yn rhwydd o bosibl.
4.7.2
Efallai y bydd awdurdodau priffyrdd am ystyried mesurau rheoli cyflymder amgen eraill hefyd er mwyn atgyfnerthu'r neges bod gyrwyr yn cyrraedd terfyn cyflymder is ac annog cydymffurfiaeth.
4.7.3
Dylai awdurdodau priffyrdd arfer eu disgresiwn a'u barn i benderfynu a yw terfyn cyflymder clustogi yn addas mewn ardal lle mae'r terfyn cyflymder yn gostwng i 20mya o gyflymder uwch, a hyd y terfyn cyflymder clustogi hwnnw yn dibynnu ar gyflymder dynesu a nodweddion arall wrth ddynesu at y terfyn cyflymder o 20mya.
Gall opsiynau eraill, fel triniaethau porth ac arwyddion ymlaen llaw wrth ddynesu, fod yn fwy priodol.
Gall casglu data ar gyflymder ar ôl ymyriad a thystiolaeth sy'n gysylltiedig â diogelwch helpu awdurdodau i gyfiawnhau mesurau ychwanegol ar safleoedd problemus, ynghyd â thystiolaeth arall fel cofnodion o wrthdrawiadau neu bryderon cymunedol.
Troednodiadau:
[5] Adolygiad o eithriadau terfyn cyflymder diofyn o 20mya a Canllawiau ar gyfer pennu terfynau cyflymder lleol yng Nghymru, adran 6.12.
[6] Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwybodaeth am amseroedd teithiau bws (cyn ac ar ôl newid y ddeddfwriaeth).