Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn sefydliad sy'n adolygu'n barhaus y ffordd rydym yn gweithio er mwyn darparu gwasanaeth gwell, ac i'n helpu i wneud hyn, rydym yn mesur ein perfformiad yn ôl set o dargedau.

Prydlondeb

  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau cynllunio a bennir drwy sylwadau ysgrifenedig (rhan 1 a rhan 3 Rheoliadau 2017) o fewn 8 wythnos
  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau cynllunio a bennir drwy sylwadau ysgrifenedig (rhan 2) o fewn 14 wythnos
  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau cynllunio a bennir drwy wrandawiadau o fewn 21 wythnos
  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau cynllunio a bennir drwy ymchwiliadau o fewn 29 wythnos
  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau gorfodi a bennir drwy sylwadau ysgrifenedig o fewn 27 wythnos
  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau gorfodi a bennir drwy wrandawiadau ac ymchwiliadau o fewn 41 wythnos

Ansawdd

  • Mae 99% o benderfyniadau gan arolygwyr yn rhydd o unrhyw gŵyn a gadarnheir neu her gyfreithiol lwyddiannus

Gwybodaeth

Rydym yn cynnal arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid ynghylch ein perfformiad. Defnyddir canlyniadau'r arolygon hyn i helpu gwella'r gwasanaeth a ddarparwn.